HWYL FAWR A DIOLCHwedi ei gyhoeddi 18:19 GMT+1 17 Hydref 2015
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Diolch am ddilyn y llif byw drwy gydol Cwpan Rygbi'r Byd, am siom nad oedd Cymru wedi gallu cyrraedd y brig.
Tan y tro nesaf, hwyl fawr.
Cymru v De Affrica yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd
Tri newid i Gymru: Gethin Jenkins, Dan Lydiate a Tyler Morgan yn dechrau
JP Pietersen yn ôl ar yr asgell i Dde Affrica
Yr ennillydd i wynebu Seland Newydd neu Ffrainc yn y rownd nesaf
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Diolch am ddilyn y llif byw drwy gydol Cwpan Rygbi'r Byd, am siom nad oedd Cymru wedi gallu cyrraedd y brig.
Tan y tro nesaf, hwyl fawr.
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Ymateb Sam Warburton i'r canlyniad: "Gutted."
Ond er hynny, dywedodd na fyddai "wedi gallu am fwy gan yr hogiau" a'i fod yn "teimlo'n rhy gynnar i fod yn mynd allan o'r gystadleuaeth".

Mae cyn-chwaraewr Lloegr, Austin Healey wedi trydar, dolen allanol i fynegi ei siom fod Cymru allan o'r gystadleuaeth.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb wedi trydar, dolen allanol yn dweud fod Cymru yn gadael Cwpan Rygbi'r byd gyda'u pennau'n uchel, yn dilyn perfformiad da iawn.
Mae Shane Williams, cyn-asgellwr Cymru wedi trydar, dolen allanol i ddymuno'n dda i'r Sbrinboks yn y rownd nesa'.
Non Evans
Cyn-Gapten Cymru
"Ni oedd y tim gorau. Dwi methu credu bo ni allan!!!"

Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Dyna hi... Y cloc wedi pasio 80' a'r bel yn disgyn o feddiant y cochion yn y sgarmes i Du Preez ei chicio allan.
Mae Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd 2015.
Ffynhonnell y llun, AFP
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
D. Affrica yn methu cic adlam.
Cymru yn ymosod...
Non Evans
Cyn-Gapten Cymru
Pam y newidiadau???
Oedd eisiau i Cuthbert i ddod i fewn am y dacl.... dwi'n mynd yn wyllt...
Ffynhonnell y llun, BBC SportGatland yn penderfynu eilyddio Gareth Davies
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Lein i Gymru yn hanner y Boks. Y blaenwyr yn gweithio'n galed ond Wayne Barnes yn rhoi cic gosb yn erbyn Roberts am ddal ar y bel ar y llawr.
Fydd cyfle arall i Gymru?
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Cafodd y sgrym ei throi, ac aeth Lloyd Williams i mewn i'r dacl gan adael Fourie Du Preez yn rhydd i fynd dros y linell i Dde Affrica.
Dyw hi ddim yn drosiad hawdd, ac mae Pollard wedi methu.
Llai na pum munud ar ol. Pedair pwynt yw'r gwahaniaeth.
Ffynhonnell y llun, AFP
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Penderfyniad mawr.
Biggar i ffwrdd a Priestland ymlaen yn ei le.
Dyw Dan ddim eisiau gadael y cae...
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
De Affrica yn mynd drwy'r cymalau, mae angen disgyblaeth, ond Barnes yn rhoi'r sgrym i'r Boks.
Mae'r gwynt yn hwyliau De Affrica.
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Cymru yn pwyso ond cic gosb yn erbyn Faletau am ddisgyn ar y bel.
Lloyd Williams ymlaen yn lle Gareth Davies.
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Cymru wedi gwneud 167 o daclau yn y gem.
De Affrica - 61...
Non Evans
Cyn-Gapten Cymru
Mae Dan Lydiate wedi taclo 21 o weithiau yn ystod y gêm, er gwaethaf y ffaith fod ganddo blat yn ei wyneb. Gwych!
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Justin Tipuric a James Hook ymlaen i Gymru. Lydiate a Morgan i ffwrdd.
Sawl chwaraewr blinedig iawn ar y cae erbyn hyn.
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Pwysau enfawr gan Dde Affrica ond amddiffyn Cymru yn wych.
Francis yn cipio'r bel a Cymru yn clirio i lawr y cae.
Eiliad i gael eich gwynt.
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Mae Bradley Davies wedi dod i'r cae yn lle Luke Charteris.
Cwpan Rygbi'r Byd 2015
Ond cyfle i Gymru daro'n ôl yn syth.
Cic gosb i Gymru a Dan Biggar yn ei rhoi hi rhwng y pyst unwaith eto.
All y gem yma ddim bod yn fwy agos!