Diolch a hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 19:11 GMT+1 9 Hydref 2016
BBC Cymru Fyw
Cofiwch am uchafbwyntiau'r gêm ar S4C heno am 22:30, a diolch i chi am ddarllen ein llif byw. Canlyniad siomedig, ond ymlaen i'r nesa'....C'MON CYMRU!!
BBC Cymru Fyw
Cofiwch am uchafbwyntiau'r gêm ar S4C heno am 22:30, a diolch i chi am ddarllen ein llif byw. Canlyniad siomedig, ond ymlaen i'r nesa'....C'MON CYMRU!!
Sky Sports
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi siarad ar deledu Sky gan gyfadde' nad oedd Cymru'n haeddu ennill heno. Dywedodd hefyd bod ildio dau bwynt yn siomedig, ond nad oedd hynny'n ddiwedd y byd wrth edrych ymlaen at ymweliad Serbia ym mis Tachwedd.

BBC Cymru Fyw
Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd, fydd hi nesa i Gymru, a hynny yn ôl yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Serbia.
Mae Cymru ar frig Grŵp D, ond go brin y byddan nhw erbyn diwedd y nos wrth i Serbia ac Awstria herio'i gilydd tra bod Gweriniaeth Iwerddon yn wynebu Moldofa.
Marc Lloyd Williams
"Georgia wedi haeddu pwynt yma heno hefo'u perfformiad yn yr ail hanner. Cymru wedi cymryd nhw rhy hawdd, a heb ddangos digon o ddychymyg i dorri nhw lawr am yr ail gôl ."
Sky Sports
Wrth siarad ar deledu Sky Sports, mae David Edwards wedi cyfadde' nad oedd Cymru'n ddigon da am fwyafrif y gêm heno.
Twitter
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

"Mae'r canlyniad yma am rhoi mwy o bwysau ar y garfan i guro Serbia mis nesaf, ond os ydi nhw am eu curo rhaid dangos mwy yn mynd ymlaen."
Chwiban Olaf
Mae hi ar ben - ac wedi gorffen yn gyfartal.
Cwpan y Byd 2018
Eiliadau yn weddill a Georgia'n eilyddio er mwyn rhedeg y cloc i lawr - mae'n edrych fel gêm gyfartal!
Cwpan y Byd 2018
Pasn wych gan Ben Davies yn canfod Vokes yn y cwrt ond y blaenwr yn methu â'i rheoli.
Cwpan y Byd 2018
Mae'r 90 munud ar ben - fe fydd 3 munud yn cael eu hychwanegu
Cwpan y Byd 2018
Amddiffyn llac eto gan Gymru a Georgia'n ergydio - y bêl yn gwyro'n ffodus at Hennessey.
Cwpan y Byd 2018
Robson-Kanu.....! Yn troi yn y cwrt ac ergydio, ond y golwr yn arbed y tro hwn
Marc Lloyd Williams
"Cymru i weld wedi rhedeg allan o syniadau yma heno!"
Cwpan y Byd 2018
WWWWWWWWWWW Agos!! Bale a'r cynnig o bell, ac o fewn trwch blewyn i'r postyn...
Cwpan y Byd 2018
Cic rydd i Gymru, ac o fewn cyrraedd i Bale.....
Cerdyn Melyn
Cwpan y Byd 2018
Mae Ashley Williams yn gweiddi ar ei amddiffyn - dydyn nhw ddim yn hapus o gwbl, ac mae'n gic gornel i Georgia