Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

01/11/2026

Cyfres newydd, yn dathlu gwaith arloeswyr Cymru wrth geisio darogan tywydd y dyfodol. A new series celebrating Welsh innovators as they try to predict the weather of the future.

Cyfres newydd, yn dathlu gwaith arloeswyr Cymru. O ddarogan tywydd ymhen 10 mlynedd i ganfod yr hinsawdd filiwn o flynyddoedd ‘nôl. Heriau glanhau dŵr gwastraff a dŵr yfed, cemegwyr yn newid y byd, a hanes pennaeth data arbrawf enfawr yn y Swistir.

Eleni yn Eisteddfod y Garreg Las, enillodd merch y fedal wyddoniaeth a thechnoleg am y tro cyntaf ers dros ugain mlynedd! Ei henw – Yr Athro Siwan Davies, ac fe fyddwn yn ymuno gyda hi, a’i myfyriwr PhD, Carys Thomas mewn lab ym Mhrifysgol Abertawe lle maen nhw yn pori dros sleidiau dirifedi o iâ wedi dadmer er mwyn canfod lludw folcanig. Ma’r lludw yn rhoi cliwiau i oed yr iâ – gan ei fod yn dod o losgfynyddoedd a ffrwydrodd flynyddoedd maith yn ôl. Mae modd dyddio yr iâ felly, sydd wedyn yn help i roi awgrym o sut oedd yr hinsawdd ar y pryd. Wrth edrych nôl fe all Siwan a Carys weld patrwm hinsoddol dros gyfnodau mor hir a miliwn o flynyddoedd yn ôl – patrwm a all roi cliwiau i ni o sut fydd ein hinsawdd ni yn newid heddiw. Ar yr un pryd, draw ym Mhencadlys y Tywydd yng Nghaerwysg, mae gwyddonydd ifanc Dr Ifan Rodgers yn ymchwilio i dywydd dros y degawd nesaf! Edrych ar dueddiadau a thebygolrwydd gan ddefnyddio data a modelau mathemategol wrth ddadansoddi newidiadau bach yn nhymheredd y môr, neu’r anrhefn yn yr atmosffer. Edrych nôl ac edrych mlaen wrth drafod ein hinsawdd.

Cynhyrchiad cwmni Telesgop Cyf i BBC Radio Cymru

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Sul 1 Tach 202616:00

Darllediad

  • Sul 1 Tach 202616:00