Episode details

Available for 29 days
Ar ôl 15 mlynedd wrth y llyw, mae Siân Elen Tomos yn camu o’i swydd fel prif weithredwr GISDA, elusen sy’n cefnogi pobl ifanc digartref a bregus yng Ngwynedd. Sgwrs am yr hyn sydd wedi newid dros ei chyfnod, a beth yw’r heriau mwyaf sy’n wynebu pobl ifanc heddiw; Sgwrs efo Lowri Llewelyn Astley sy'n rhannu ei phrofiad diweddar o alar ac yn trafod pam bod presenoldeb, dealltwriaeth a chefnogaeth ffrindiau a theulu yn hollbwysig wrth geisio ymdopi â cholled; A'r trefnydd priodas Alaw Griffiths sy'n ystyried pam bod rhai traddodiadau priodasol wedi newid yn ddiweddar?
Programme Website