Oes a fu?
- Cyhoeddwyd

Mae Capel y Cwm yng Nghwmsychbant yn ardal y 'Smotyn Du' yng Ngheredigion
Mae prosiect sy'n ceisio arolygu defnydd miloedd o gapeli yng Nghymru yn gofyn am gymorth y cyhoedd.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn ceisio canfod statws tua 2,500 o gapeli.
Cafodd 6,500 o gapeli eu codi ar hyd a lled Cymru yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf ac mae'r capel anghydffurfiol wedi bod yn rhan o dirwedd wledig, drefol a diwydiannol Cymru.
Ond erbyn heddiw mae'r capeli'n diflannu o'n bywydau ni bron mor gyflym ag y cawson nhw eu codi yn nyddiau eu bri.
Proses gynllunio
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r Comisiwn Brenhinol wedi bod wrthi'n gweithio ar brosiect enfawr i gofnodi'r capeli hynny.
Agwedd bwysig ar y gwaith yw ystyried yr hyn sy'n digwydd i adeiladau'r capeli.
Gwaith yr arolwg hwn yw ceisio dod o hyd i statws pob capel unigol.
Bydd yr arolwg yn ceisio canfod a yw'r capeli unigol dal i fod yn gapel y cynhelir gwasanaethau ynddo, wedi'i addasu at ddiben arall, wedi'i ddymchwel, yn adfeilion, neu'n rhywbeth arall.
Os bu trosi arno, fe fydd y Comisiwn yn cofnodi'r defnydd newydd ohono ac fe fyddan nhw hefyd yn nodi unrhyw gapel sydd wrthi'n cael ei werthu neu'n mynd drwy broses gynllunio.
Amrywio
Amrywio'n fawr wna'r sylw a gafodd gwahanol rannau o Gymru hyd yn hyn.
Ym Môn, er enghraifft, does ond tri chapel, sef llai na 2% o'r cyfanswm gwreiddiol, na ŵyr y Comisiwn ddim oll am eu statws.
Ond mae'r darlun o siroedd hanesyddol a threfol Morgannwg a Mynwy yn fwy cymhleth gan i'r comisiwn gofnodi gwybodaeth am statws llai na hanner capeli'r gyntaf a thraean o gapeli'r ail.
Nod y comisiwn yw cwblhau'r elfen hon o'r ymchwil erbyn diwedd Rhagfyr 2011.
Gellid cysylltu â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ynghylch yr arolwg trwy ei wefan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011

- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011
