Canu clodydd 'camp anhygoel'
- Cyhoeddwyd

Capten Cymru Sam Warburton gyda Thlws y Chwe Gwlad
Mae cyn chwaraewyr a chefnogwyr wedi bod yn canu clodydd tîm rygbi Cymru ar ôl iddyn nhw gipio'r Gamp Lawn wrth drechu Ffrainc o 16-9.
Hon oedd y drydedd Gamp Lawn o fewn wyth mlynedd a'r ail i'r hyfforddwr Warren Gatland.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna seremoni swyddogol y tu allan i adeilad y Senedd nos Lun i ddathlu'r fuddugoliaeth.
Bydd cyfle i gefnogwyr wylio''r achlysur am 6pm pan fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cyflwyno Tlws y Chwe Gwlad i Gatland a'r capten Sam Warburton.
Hwn oedd y tro cyntaf i'r ddau dîm gwrdd ers Cwpan y Byd pan enillodd Ffrainc o 9-8.
Dywedodd Mr Jones fod gan Gymru arwyr newydd.
"Heddiw rydym yn croesawu cenhedlaeth newydd o arwyr rygbi - chwaraewyr sydd wedi sicrhau'r un llwyddiant â thimau mawr y gorffennol."
Daeth clod gan un o gyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru, y cyn faswr Jonathan Davies.

Alex Cuthbert yn curo'r amddiffyn ar gyfer unig gais y gem
"Gall y bechgyn yma gael eu cydnabod yr un mor llwyddiannus â thîm y 70au - mae tair Gamp Lawn ers 2005 yn ffantastig."
Un o'r rhai oedd yn aelod o dîm 2005 yw'r blaenwr Ryan Jones.
"Bydd hwn yn rhywbeth fe wnawn ni 'i gofio am flynyddoedd i ddod - mae pawb yn y garfan wedi cyfrannu at y llwyddiant."
Dywedodd Dan Lydiate fod y dorf o dros 74,000 wedi bod yn anhygoel.
"Mae fel chwarae gydag 16 o ddynion," meddai.
Roedd sôn bod hyd at 250,000 o gefnogwyr wedi tyrru i Gaerdydd ar gyfer yr achlysur.
Yr asgellwr Alex Cuthbert sgoriodd unig gais y gêm. Daeth pwyntiau eraill Cymru o esgid Lee Halfpenny.
Dyma'r ail Gamp Lawn yr hyfforddwr Warren Gatland.
"O fod yn ffefrynnau mae hwn yn dîm ifanc sydd wedi dangos aeddfedrwydd dan bwysau mawr," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2012

- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2012
