Llong: 'Rhywfaint' o olew wedi gollwng
- Cyhoeddwyd
Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi dweud bod "rhywfaint" o olew wedi gollwng o long darodd y creigiau nos Fawrth.
Cafodd saith o Bwyliaid eu hachub am 1am fore Mercher wedi i long yr MV Carrier o'r Almaen daro'r creigiau yn ymyl Glanfa Jaynes yn Llanddulas ger Bae Colwyn.
Y pryder yw y gallai mwy o olew lifo i'r môr gan fod Bae Lerpwl yn ardal gwarchod arbennig.
Mae arbenigwyr achub a llygredd yn asesu'r difrod a gallai'r achub bara am hyd at dair wythnos.
Eisoes mae'r Adran Drafnidiaeth wedi dechrau ymchwiliad.
Hofrennydd
Ar hyn o bryd mae gwyntoedd cryfion a môr garw'n her i'r rhai sy'n ceisio diogelu'r llong sy'n cario 40,000 o litrau o danwydd.

Llun o'r llong fore Mercher
Cafodd lôn ddwyreiniol yr A55 ei chau rhwng cyffordd 22 a chyffordd 23 am 10pm nos Fawrth fel bod modd i hofrennydd lanio.
Ar hyn o bryd mae Gwylwyr y Glannau, y Gwasanaeth Tân, yr heddlu, awdurdodau lleol ac Asiantaeth y Cefnffyrdd yn cydweithio er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gareth Pritchard: "Rydym yn ymwybodol o'r amharu ar hyn o bryd, yn enwedig yn achos y traffig ar yr A55 a ffyrdd yn y cyffiniau.
"Rydym yn ceisio lleddfu'r problemau cyn gynted â phosib."
'Blaenoriaeth'
Dywedodd ei fod yn ymddiheuro am yr anghyfleustra i'r cyhoedd.
"Ond ein blaenoriaeth ni yw delio â'r digwyddiad yn ddiogel a byddwn yn cydweithio ag asiantaethau eraill er mwyn delio â'r mater cyn gynted â phosib."
Cafodd dau fad achub a hofrennydd eu galw am 8.30pm nos Fawrth wedi i'r cwch daro craig ger glanfa.
Y gred yw bod y cwch yn defnyddio'r lanfa i lwytho calchfaen.
Cafodd badau achub Llandudno a'r Rhyl eu lansio yng nghanol "storm a môr garw" am 8.30pm nos Fawrth a chyrhaeddon nhw'r lanfa am 9pm.
Dywedodd cydbeilot yr hofrennydd cynta, James Bullock: "Yn gynta, roedd yn her dod o hyd i'r cwch oherwydd yr eira.
"Roedd y gwyntoedd cryfion wedi ei wthio yn erbyn bancyn yr A55 ... roedd yn anodd achub y criw oherwydd ongl yr hofrennydd yn yr awyr.

Cafodd lôn ddwyreiniol yr A55 ei chau am resymau diogelwch
'Stormus'
"Roedd yn amgylchiadau'n stormus."
Dywedodd RSPB Cymru eu bod yn poeni y byddai unrhyw olew o'r llong yn cael effaith ddifrifol ar niferoedd yr adar o bwys rhyngwladol yn yr ardal.
Yn ôl Patrick Lindley, Uwchswyddog Cadwraeth y mudiad: "Mae Bae Lerpwl yn Ardal Warchodaeth Arbennig oherwydd niferoedd hwyiaid y môr a throchwyr sy'n gaeafu yno.
"Yr amcangyfri yw bod 10,000 o fôr-hwyaid duon yn bwydo dim mwy na dau gilometr oddi ar y lan yn yr ardal o fewn yr wythnos diwethaf ac rydym yn poeni y gall y gwyntoedd gogleddol yn ystod y dyddiau nesaf eu gwthio'n nes at y glannau.
"Wrth i'r tymor nythu agosáu, rydym hefyd yn pryderu am effaith unrhyw olew ar adar y môr eraill sy'n dibynnu ar y dyfroedd oddi ar Ogledd Cymru fel mannau bwydo."
Dywedodd y byddai'r staff yn monitro'r sefyllfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2012
