Tywydd garw yn amharu ar yr ymgyrch achub yn Llanddulas
- Cyhoeddwyd

Mae olew'n gollwng am fod tri thwll yn ochr dde'r llong
Oherwydd tywydd garw fe fydd tîm achub yn ei chael hi'n anodd i waredu olew oddi ar long sydd wedi taro creigiau ger arfordir y gogledd.
Mae tanwydd eisoes wedi gollwng o long yr MV Carrier ond bydd angen aros i'r tywydd wella cyn i'r gwaith achub go iawn fynd yn ei flaen.
Aeth y llong, sy'n cario 40,000 litr o olew, i drafferthion yn ymyl Llanddulas ger Bae Colwyn nos Fawrth.
Mae'n debyg y bydd rhaid rhwystro'r llong rhag symud cyn bod modd gwaredu'r olew.
Gwasgaru
Ymateb Sian Williams o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i'r sefyllfa.
Swyddogion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau sy'n ceisio symud yr olew.
Y gred yw bod y tywydd garw wedi helpu gwasgaru'r ychydig olew sydd wedi gollwng.
Mae'r olew'n gollwng am fod tri thwll yn ochr dde'r llong.
Dywedodd Roger Mabbot, Cyfarwyddwr y Spill Association: "Fel rheol ac o dan amgylchiadau arferol mae disgwyl i dynfadau symud y llong ond mae'n amlwg fod tywydd garw yn ei gwneud hi'n anodd i glymu'r llong."
Os oedd y llong yn cael ei sefydlogi ar y traeth, meddai, byddai llawer llai o risg y byddai'r olew yn gollwng.
"Dyw 40,000 litr o olew ddim yn enfawr o'i gymharu â 2,500 tunnell fyddai ar long gargo fawr," meddai.
"Ond byddai'r olew yn achosi llygredd os yw'n cyrraedd y lan."

Bu'n rhaid cau'r A55 oherwydd rhesymau diogelwch
Tair wythnos
Yn ôl arbenigwyr, fe allai cludo'r llong o'r safle gymryd hyd at dair wythnos.
Dywedodd Simon Evans o gwmni APB Marine fod y tywydd yn broblem.
"Mae angen rhwystro'r llong rhag symud a bydd hynny'n lleihau'r difrod," meddai.
"Cael y tanwydd o fwrdd y llong yw'r flaenoriaeth ond byddai'n rhaid rhoi dŵr yn ei le er mwyn cadw pwysau ar y llong.
"Wedyn byddai angen asesiad o gorff y llong."
Ar ôl hynny, meddai, byddai angen defnyddio aer i wagio'r tanciau er mwyn ysgafnhau'r llong cyn ei thynnu i'r môr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012