Morgannwg yn colli eto
- Cyhoeddwyd

Cymrodd Waters ddwy wiced i roi gobaith i Forgannwg
Roedd hi'n ymddangos bod Morgannwg yn mynd i osgoi colli gêm arall ym Mhencampwriaeth y Siroedd ddydd Sul yn bennaf oherwydd y tywydd.
Ond pan wellodd y tywydd, daeth cwmwl du arall dros dymor Morgannwg er bod diweddglo'r gêm yn hynod gyffrous.
Ar ddechrau'r diwrnod olaf, roedd angen 94 rhediad ar yr ymwelwyr i ennill y gêm wedi i Forgannwg gael diwrnod da gyda'r bat ddydd Sadwrn.
Yn wir roedd buddugoliaeth annhebyg yn edrych o fewn cyrraedd pan gipiodd Huw Waters ddwy o wicedi'r ymwelwyr pan ddechreuodd y chwarae ganol prynhawn Sul.
Ond Ervine oedd yr arwr i Hampshire. Arhosodd yntau wrth y llain wrth i'r wicedi ddisgyn o'i gwmpas, gan sgorio 75 cyn colli'i wiced i fowlio Jim Allenby.
Roedd ei fatiad yn ddigon i lywio ei dîm i fuddugoliaeth o ddwy wiced yn y diwedd gyda Riazuddin yn taro'r rhediadau buddugol.
Morgannwg v Sir Hampshire (Sgôr terfynol)
Morgannwg: (Batiad cyntaf) 103 am 9
(ail fatiad)256
Hampshire: (Batiad cyntaf) 156
(ail fatiad) 204 am 8
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2012