Hyfforddwr Morgannwg yn gadael?
- Cyhoeddwyd

Daeth Matthew Mott i Forgannwg yn Ionawr 2011
Mae clwb criced Morgannwg wedi caniatáu i'w pennaeth perfformiad ymgeisio am swydd hyfforddwr Seland Newydd.
Mae Matthew Mott wedi bod yn brif hyfforddwr Morgannwg ers Ionawr 2011.
Dywedodd y sir fod Seland Newydd wedi cysylltu â Mott er mwyn trafod posibilrwydd symud i hyfforddi'r Black Caps.
'Uchelgais'
Dywedodd prif weithredwr Morgannwg, Alan Hamer: "Rydym yn awyddus i gadw gwasanaethau Matthew Mott ond fel pob hyfforddwr da mae ganddo uchelgais i weithio ar y lefel uchaf bosib.
"Rydym felly wedi rhoi sêl bendith iddo ymgeisio am swydd wag prif hyfforddwr tîm criced Seland Newydd.
"Rydym ar ddeall bod Matthew un o nifer o ymgeiswyr sy'n cael eu cyfweld ac y bydd y broses wedi ei chwblhau erbyn diwedd y mis.
"Ni fydd y clwb yn gwneud sylw pellach ar y mater tan fydd canlyniad y broses wedi ei gyhoeddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2012
