Prif Weithredwr Morgannwg yn datgelu cost y tywydd drwg
- Cyhoeddwyd

Prif weithredwr: 'Mae criced wedi diodde'n arw oherwydd y glaw.'
Mae Prif Weithredwr Morgannwg, Alan Hamer, yn amcangyfrif bod y clwb wedi gwneud colled chwe ffigwr oherwydd y tywydd gwael.
Morgannwg oedd y tîm ddioddefodd waetha' o'r 18 yn y gystadleuaeth T20.
O'r deg gêm y mae pob tîm yn eu chwarae fe gafodd pump o rai Morgannwg eu canslo oherwydd glaw, gan gynnwys tair gêm gartref.
Dywedodd Hamer: "Mae criced wedi diodde'n arw oherwydd y glaw.
"Dros y chwe wythnos ddiwethaf, mae'r arian sy'n dod i mewn wedi disgyn ymhell islaw ein cyllideb gan nad ydym wedi medru cynnal gemau o gwbl.
'Twristiaeth'
"I bob pwrpas, mae criced yn ddiwydiant twristiaeth a phan mae'n bwrw dydych chi ddim yn chwarae a dyw pobl ddim yn dod.
"Does dim gwerthiant tocynnau, wrth gwrs, ond rydym hefyd yn colli gwariant arall yn siopau a bariau'r clwb.
"Fe fyddwn i'n meddwl dros dymor o dywydd gwael fel hwn fod y golled yn chwe ffigwr."
Roedd Mr Hamer wedi dweud ei fod yn gobeithio y byddai Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn dysgu gwersi oherwydd y tymor ac yn gwneud newidiadau.
Roedd wedi awgrymu y dylai'r bwrdd ystyried estyn y tymor T20 i 10 wythnos er mwyn ceisio osgoi'r tywydd ddiddal sydd wedi difetha'r gystadleuaeth.
Ailstrwythuro
Ym mis Ionawr cyhoeddodd Morgannwg eu bod wedi ailstrwythuro'u cyllid er mwyn ceisio lleihau dyled y clwb a sicrhau'r dyfodol.
Y mis canlynol, datgelodd Morgannwg eu bod wedi gwneud colled o £1.7 miliwn yn 2011, gan gynnwys colled o £1.2m o'r gêm brawf rhwng Lloegr a Sri Lanka.
Mae yswiriant ar gael i siroedd i'w digolledu rhywfaint pan mae'r tywydd yn ddrwg ond mae cost polisïau o'r fath yn cynyddu.
Ychwanegodd Mr Hamer: "Rhaid ystyried budd cost yswirio. Rydym yn gwneud hynny yn achos y gemau allweddol ond os nad ydych yn chwarae rhaid talu costau eraill fel talu staff, ac fe all yr effeithiau fod yn sylweddol.
"Ar gyfer y T20 fe gewch chi cryn dipyn o gwsmeriaid ar hap, ac os yw eu profiad cyntaf yn wael, fyddan nhw ddim yn dychwelyd - does dim modd yswirio yn erbyn hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2012