Glaw yn rhwystro Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Doedd dim chwarae yn bosib rhwng Morgannwg a Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth 20/20 Friends Life yn Stadiwm Swalec ddydd Gwener oherwydd y glaw.
Mae'r ddau dîm yn casglu pwynt yr un, sy'n golygu bod Morgannwg yn aros un safle o waelod y tabl.
Mae pump o naw gêm y Dreigiau yn y gystadleuaeth eleni wedi cael eu gohirio oherwydd y glaw.
Does dim gobaith i Forgannwg gyrraedd rownd yr wyth olaf ac fe fydd eu gêm olaf yn y gystadleuaeth eleni yn erbyn Swydd Warwick yn Edgbaston ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol