Morgannwg yn ennill eu gêm 20/20 olaf o'r tymor
- Cyhoeddwyd

Curodd Morgannwg Swydd Warwick o 22 rhediad trwy ddull Duckworth-Lewis yn eu gêm olaf yng nghystadleuaeth T20 Friends Life yn Edgbaston ddydd Sul.
Sgoriodd Morgannwg 173 am bum wiced gan gynnwys 68 gan y batiwr o Awstralia, Shaun Marsh.
Bowliwr mwyaf llwyddiannus Swydd Warwick oedd Chris Wright a gipiodd ddwy wiced am 43 rhediad.
Cafodd batiad Swydd Warwick ei gwtogi i naw pelawd ar ôl i law amharu ar fatiad y tîm cartref.
Oherwydd hynny bu'n rhaid dibynnu ar reolau Duckworth-Lewis a tharged Swydd Warwick oedd 84 rhediad.
Llwyddodd y Dreigiau rwystro Swydd Warwick i 61 am bedair wiced gyda Morgannwg yn ennill o 22 rhediad.
Gwlad yr Haf, Swydd Caerloyw a Swydd Caerwrangon fydd yn mynd yn eu blaenau o grŵp Morgannwg i chwarae yn rownd yr wyth olaf.
Cafodd pump o ddeg gêm y Dreigiau yn y gystadleuaeth eleni eu gohirio oherwydd y glaw ac fe orffennodd Morgannwg yn y pumed safle gan ennill dim ond dwy gêm.
Morgannwg - 173 am 5 (20 pelawd)
Swydd Warwick- 61 am 4 (9 pelawd)
Morgannwgyn fuddugolo22 rhediadtrwy ddull Duckworth-Lewis
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2012