Llaeth: Dau weinidog i drafod â ffermwyr
- Cyhoeddwyd

Mae ffermwyr llaeth wedi cynnal protestiadau y tu allan i ganolfannau prosesu llaeth
Bydd dau o weinidogion llywodraeth Prydain yn cwrdd â ffermwyr ddydd Llun ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ym Mhowys.
Bydd y Gweinidog Amaeth, Jim Paice a'r Ysgrifennydd Amgylchedd Caroline Spelman yn trafod eu cwynion am brisiau llaeth.
Mae'r Llywodraeth hefyd yn trefnu i gwrdd â chynrychiolwyr o'r archfarchnadoedd mawr dros y dyddiau nesaf.
Mae ffermwyr llaeth wedi cynnal protestiadau y tu allan i ganolfannau prosesu llaeth yr wythnos hon i dynnu sylw at y pris maen nhw'n ei gael am eu cynnyrch.
Ddydd Sadwrn cyhoeddodd archfarchnad Morrisons eu bod yn cynyddu'r taliadau i ffermwyr 2c-y-litr i 6c-y-litr.
Mae Dirprwy Weinidog Amaeth Cymru wedi rhybuddio ffermwyr i beidio â gwastraffu llaeth fel protest yn erbyn prisiau.
Cafodd y syniad ei grybwyll mewn cyfarfod yn Llandeilo nos Iau wrth i gannoedd o ffermwyr eraill wrthdystio yn Lloegr.
Mae 'na gwyno am archfarchnadoedd ond y nhw sy'n talu orau, yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain.
Roedd dros 200 o ffermwyr yn bresennol yn y cyfarfod gan wrando ar Alun Davies yn y cyfarfod oedd yn cael ei gadeirio gan aelodau etholedig Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhodri Glyn Thomas a Jonathan Edwards.
Fe addawodd y tri gwleidydd wrando ar bryderon y ffermwyr.
Ac fe ddywedodd y gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud popeth bosib i helpu'r diwydiant llaeth.
Ychwanegodd na fyddai'r ffermwyr yn cael cefnogaeth y cyhoedd petai llaeth yn cael ei wastraffu mewn protest.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2012

- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
