Dyn o flaen llys ar gyhuddiad o lofruddio'i wraig
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 57 oed wedi bod yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o lofruddio'i wraig.
Honnir bod John Yates o Warrington wedi gyrru i Orsaf Heddlu Llanelwy, Sir Ddinbych, nos Fercher gyda chorff ei wraig, Barbara, yng nghist y car.
Roedd wedi bod yn Llys Ynadon Llandudno dros y penwythnos.
Fe barodd gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug am bedwar munud a chafodd yr achos ei ohirio.
Anhysbys
Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig 49 oed mewn lleoliad anhysbys.
Dangosodd archwiliad post mortem ei bod hi wedi cael nifer o anafiadau.
Mae Heddluoedd Sir Gaer a Gogledd Cymru yn ymchwilio ar y cyd.
Cafodd y diffynnydd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i'r achos fod yn llys ar Fedi 28.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2012