Ffermwr o Sir Gâr yn ennill gwobr Brynle Williams
- Cyhoeddwyd

Yn ogystal â magu merlod a chobiau roedd Brynle Williams yn feirniad
Mae ffermwr ifanc o Sir Gâr wedi ennill Gwobr Goffa Brynle Williams 2012.
Yr enillydd yw Sion Thomas Williams o Lansawel ger Llandeilo.
Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Alun Davies, gyhoeddodd hyn yn adeilad y Ffermwyr Ifanc yn y Sioe Frenhinol yng nghwmni Mary Williams, gwraig y diweddar Brynle.
Hwn yw'r tro cyntaf i wobr er cof am yr Aelod Cynulliad gael ei chynnig yn y Sioe Frenhinol.
Cobiau
Roedd Brynle Williams yn Aelod Cynulliad Ceidwadol dros Ogledd Cymru, yn amaethwr ac yn ymddiddori mewn magu merlod a chobiau Cymreig.
Hefyd roedd yn aelod oes y Gymdeithas Cobiau ac yn feirniad rhyngwladol uchel ei barch.
Bu farw yn 2011.
O hyn ymlaen mae'r wobr yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn yn yr adran cobiau a merlod Cymreig.
10 mlynedd
Roedd enillydd eleni a'i wraig Claire wedi sicrhau tenantiaeth 10 mlynedd ar fferm Beili Ficer ym mis Hydref 2010 wedi iddo raddio o Brifysgol Harper Adams.
Ar y fferm mae diadell fasnachol o dros 1,000 o famogiaid, diadell bedigri o 50 Texel a diadell fechan o Charollais pedigri.
Yn ail roedd Moi Ellis Dafydd, Iolo Llwyd Evans, Richard Norton Lewis a Dora Ann Eynon.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru y wobr ddwy flynedd yn ôl er mwyn cydnabod ei gyfraniad fel Aelod Cynulliad a ffermwr gweithgar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2012
