Marwolaeth Prestatyn: Arestio ar amheuaeth o ddynladdiad
- Cyhoeddwyd

Bu farw dyn lleol 42 oed, Jonathan Sillett, ym Mhrestatyn nos Sadwrn
Mae dyn 20 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad wedi marwolaeth dyn ym Mhrestatyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe yw'r nawfed sydd wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth Jonathan Sillett, 42 oed, nos Sadwrn.
Yr wyth arall yw dau ddyn 21 oed, dau ddyn 22 oed, dyn 23 oed, dyn 20 oed, menyw 21 oed a menyw 19 oed.
Maen nhw i gyd yn lleol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Graham Talbot: "Mae'r ymchwiliadau'n parhau i'r farwolaeth amheus hon ac rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd unrhyw beth."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012
