Ymgyrch Pallial: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd

Mae'r ymgyrch yn ymchwilio i i achosion o gam-drin plant mewn cartrefi gofal fel Bryn Estyn, Wrecsam
Mae dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei holi gan heddlu sy'n ymchwilio i honiadau o gam-drin plant yn y gogledd yn yr 1970au a'r 1980au.
Fe gafodd ei arestio yn Ipswich, Suffolk, ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar nifer o bobl.
Fe yw'r un cyntaf i gael ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial ddechreuodd ychydig o fisoedd yn ôl.
Mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan y Ditectif Uwcharolygydd Ian Mulcahey o Heddlu Glannau Mersi gyda chefnogaeth swyddogion a staff yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, y Ganolfan Gam-fanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein a heddluoedd ar draws y wlad.
Adroddiad
Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Troseddau, Keith Bristow, sy'n bennaf gyfrifol am yr ymgyrch.
Bydd adroddiad am gasgliadau'r ymchwiliad hyd yma yn cael ei gyflwyno i Brif Gwnstabl Gogledd Cymru, Mark Polin a'r Swyddfa Gartref ddydd Llun, Ebrill 29.
Bydd crynodeb o'r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi'r un pryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
