Llys: 'Gwneud cynnig i dair menyw'
- Cyhoeddwyd

Clywodd y llys gyfres o negeseuon testun rhwng y diffynnydd a'i gyn-gariad.
Mae llys wedi clywed bod y dyn ar gyhuddiad o lofruddio April Jones wedi gwneud cynnig i dair menyw ar Facebook y diwrnod y diflannodd hi.
Mae Mark Bridger, 47, o Geinws ym Mhowys, wedi gwadu cipio a llofruddio April, a ddiflannodd ym Machynlleth saith mis yn ôl.
Mae disgwyl i'r achos bara chwe wythnos.
Negeseuon
Hefyd mae Mr Bridger wedi gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy guddio corff April.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod wedi anfon y negeseuon ar Facebook wedi i'w berthynas â'i gariad ddod i ben.
Clywodd y rheithgor negeseuon testun yr oedd wedi eu hanfon at ei gyn-gariad, Vicky Fenner, ar Hydref 1, 2012.
Roedd wedi dweud wrthi: "Ti oedd fy mywyd."
Ar yr un diwrnod roedd y diffynnydd wedi anfon neges destun at ei gyflogwr, gan ddweud na fyddai'n mynd i'r gwaith.
"Dwi angen sortio pethau," meddai'r neges.
Y diwrnod dan sylw, ychydig cyn hanner dydd, roedd wedi anfon neges at fenyw ar Facebook, yn gofyn a fyddai'n hoffi cyfarfod ag e.
'Ti oedd popeth'
Ynghynt roedd wedi anfon negeseuon at Ms Fenner.
Am 7.38am roedd hi wedi dweud: "Allen i ddim gadael heb ddweud 'hwyl' ... efallai wela' i di o gwmpas heddiw."
Ateb Mr Bridger oedd: "Ti oedd popeth ... dwi'n dal i dy garu di."
Yna am 7.52am dywedodd hi: "Dwi'n dy garu di hefyd ond mae'n ddrwg gen i, alla i ddim gwneud hyn. Dwi ddim eisiau dim o'r tŷ. Iawn?"
Ei ateb e oedd: "Dim angen i ti newid dy rif. Fydda i ddim yn dy haslo di."
Yn ddiweddarach anfonodd Mr Bridger neges: "Doedd hi ddim yn hir cyn i ti ddweud wrth bawb ..."
Ynghynt fore Mercher gadawodd pawb yr oriel gyhoeddus cyn i'r rheithgor wylio delweddau oedd ar gyfrifiadur y diffynnydd.
Y rhain oedd y delweddau yr oedd yn eu gwylio ar Fedi 30 y llynedd.
Fe ddiflannodd April Jones ar Hydref 1 wrth chwarae ger ei chartre' ym Machynlleth a dyw ei chorff hi byth wedi'i ddarganfod.
Wrth agor eu hachos ddydd Mawrth dywedodd yr erlynydd Elwen Evans QC: "Mae wedi chwarae gêm greulon wrth esgus nad yw'n gwybod beth wnaeth iddi ... gêm yw hon er mwyn achub ei hun."
Plant lleol
Clywodd y llys ei fod yn ymddiddori mewn delweddau rhywiol o blant a llofruddiaethau plant.
Roedd ganddo luniau o blant lleol.

Erlynydd: 'Ni lwyddodd y chwilio mwya' yn hanes yr heddlu ddod o hyd iddi'
Cafodd y rheithgor, naw menyw a thri dyn, rybudd y byddai'n rhaid iddyn nhw wylio rhai delweddau.
Ar ei gyfrifiadur roedd lluniau o ferched pump oed yn noeth a lluniau o'r ddwy ferch, Holly Wells a Jessica Chapman, a gafodd eu llofruddio yn Soham.
Dywedodd Ms Evans: "Mae hwn yn achos lle mae'r dystiolaeth yn dangos cymhelliad rhywiol ac nid oes modd asesu'r ffeithiau heb wybod yr hyn mae'r diffynnydd yn ymddiddori ynddo."
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi "glanhau ei gartre'n drylwyr," gan gynnwys cael gwared ar gorff a dillad April.
Lludw
Serch hynny, roedd gwaed yn yr ystafell fyw, y cyntedd a'r ystafell ymolchi'n cyfateb i DNA April.
Yn ôl arbenigwyr, meddai Ms Evans, roedd darnau esgyrn yn lludw'r tân yn gyson â darnau esgyrn penglog plentyn.
Roedd April "yn hapus ac yn gwenu" ar Hydref 1, meddai, pan gamodd i mewn i gerbyd y diffynnydd.
"Mi yrrodd y ferch i ffwrdd a dyna'r tro olaf i bawb, ar wahân i'r diffynnydd, ei gweld.
"Ni lwyddodd y chwilio mwya' yn hanes yr heddlu ddod o hyd iddi."
Roedd y diffynnydd wedi honni bod damwain ffordd wedi bod a'i fod wedi dodi April mewn car "er mwyn cael help meddygol".
Gwadu
"Ond ni aeth at unrhyw un i gael help," meddai.

Rhieni April yn cyrraedd y llys
Roedd wedi honni ei fod wedi gyrru o gwmpas Machynlleth ond nid oedd lluniau cylch cyfyng yn dangos hynny.
Gwadodd iddo fynd â hi i'w gartre' a mynnodd nad oedd wedi ei cham-drin yn rhywiol.
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi dweud wrth bobl iddo fod yn y lluoedd arfog, gan gynnwys yr SAS.
Ond roedd cofnodion milwrol wedi dangos bod hyn yn "gelwydd ac yn ffantasi".
Rhwng 2009 a 2012 roedd wedi gweithio mewn lladd-dy ac yn ystod mis Hydref y llynedd roedd yn labrwr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2013
