Llys: Cynnig diffynnydd i ferch arall
- Cyhoeddwyd

Roedd April Jones yn chwarae ger ei chartref ym Machynlleth pan aeth ar goll
Mae rheithgor wedi gweld tystiolaeth fideo o ferch yn dweud wrth yr heddlu fod diffynnydd wedi gofyn iddi aros noson gyda'i ferch ei hun.
Mae Mark Bridger, 47 oed o Geinws ger Machynlleth, yn gwadu cipio a llofruddio April Jones ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Yn y fideo dywedodd y ferch 10 oed fod y diffynnydd wedi gofyn iddi aros noson gyda'i ferch y diwrnod y diflannodd April.
Ni chafodd unrhywbeth ei drefnu.
Dau blentyn
Mae'r erlyniad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi dweud bod Mr Bridger wedi mynd at ddau blentyn wyth a 10 oed y noson y diflannodd April, Hydref 1 2012.
Yn y fideo dywedodd y ferch 10 oed ei bod hi wedi bod yn chwarae gyda'i ffrind.
"Mi welais i Mark yn ei gar a gofynnodd a f'aswn i'n hoffi cysgu'r nos efo ei merch.
"Mi barciodd ei gar a dechra siarad ... dwi wedi ei weld o sawl gwaith a mae o wedi bod yn glên iawn."
Pan ofynnwyd iddi sut yr oedd yn adnabod y car dywedodd fod bathodyn Land Rover arno a'i bod hi wedi ei weld yn aml.
"Mi oedd ei gynnig ychydig yn rhyfedd," meddai.
Wedyn, meddai, fe welodd y diffynnydd "bum neu 10 munud yn ddiweddarach" yn yr ardal lle arferai April chwarae ar ei beic.
'Symud a siarad'
"Mi oedd yn ei gar yn gorwedd a phapur newydd ar ei lin ... mi oedd set symud a siarad yn ei law ..."
Yna, meddai, aeth hi adre' ar ei beic, cael bwyd a dod yn ôl a sylwi bod y diffynnydd wedi mynd.
Clywodd y llys dystiolaeth Carwen Sheen o Fachynlleth oedd yn helpu chwilio am April y diwrnod wedi iddi ddiflannu.
Dywedodd ei bod wedi gweld Mr Bridger sawl gwaith y bore hwnnw a'i fod ger bancyn a drws ei gerbyd ar agor.
'Yn ddu'
"Mi wnes i arafu'r car a dywedodd ffrind: 'Beth mae o yn ei wneud yn fanno?'"
Roedd y diffynnydd yn cario bag plastig, meddai. "Mi oedd yn ddu ac wedi ei lapio."
Pan holodd Brendan Kelly QC hi, dywedodd nad oedd y bag wedi ei lapio am ei law.
"Roedd wedi ei lapio fel sosej," meddai.
Gofynnodd yr erlynydd Elwen Evans QC a oedd y bag yn wag.
Ei hateb oedd: "Mi faswn i'n deud bod rhywbeth yn y bag ..."
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2013
- Cyhoeddwyd7 Mai 2013
- Cyhoeddwyd3 Mai 2013
- Cyhoeddwyd2 Mai 2013
- Cyhoeddwyd1 Mai 2013

- Cyhoeddwyd1 Mai 2013
