Rheithgor yn gweld car diffynnydd
- Cyhoeddwyd

Diflannodd April Jones wrth chwarae ger ei chartref ym Machynlleth
Mae rheithgor achos y dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones wedi archwilio'r cerbyd yr honnwyd iddo gael ei ddefnyddio i'w chipio.
Hefyd maen nhw wedi gweld beiciau April a'i ffrind y noson yr aeth hi ar goll.
Mae Mark Bridger, 47 oed o Geinws ger Machynlleth, wedi gwadu cyhuddiadau o gipio a llofruddio'r ferch bump oed, ac yn gwadu bwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Ar ôl yr ymweliad anfonodd y rheithgor gwestiynau i'r barnwr.
Larwm
Un o'r cwestiynau yw a oedd y radio â system larwm yn y cerbyd yn gweithio.
Dywedodd y barnwr y byddai rhai o'r cwestiynau'n cael eu hateb fel rhan o'r dystiolaeth.
Aeth April ar goll wrth chwarae ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1 y llynedd.
Mae Mr Bridger wedi dweud ei fod wedi ei tharo yn ddamweiniol gyda'i gar ac wedi mynd i banig, ac nad yw'n cofio beth a wnaeth gyda'i chorff am ei fod wedi meddwi.
Negeseuon testun
Cyfeiriodd yr erlynydd fore Iau at y negeseuon testun oedd wedi eu hanfon rhwng Mr Bridger a menyw o Ynys Wyth.
Gyrrwyd negeseuon rhyngddo ef a'i gyn cariad Vicky Fenner y diwrnod yr aeth April Jones ar goll.
Dywedodd un neges: "Ti oedd fy mhabi i, roeddet ti yn bopeth i fi ... os yw hyn yn golygu rhywbeth, dw i dal mewn cariad gyda thi ..."
Hefyd ar Hydref 1 mi gysylltodd Mr Bridger gyda'i gyflogwr Cheryl Harper i ddweud na fyddai yn y gwaith.
Dywedodd fod rhaid iddo fynd i swyddfeydd y cyngor ac i'r orsaf heddlu.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2013

- Cyhoeddwyd14 Mai 2013

- Cyhoeddwyd13 Mai 2013

- Cyhoeddwyd10 Mai 2013

- Cyhoeddwyd9 Mai 2013

- Cyhoeddwyd8 Mai 2013

- Cyhoeddwyd7 Mai 2013

- Cyhoeddwyd2 Mai 2013

- Cyhoeddwyd3 Mai 2013