Llys yn clywed cyfweliad â'r heddlu
- Cyhoeddwyd

Diflannodd April Jones wrth chwarae ger ei chartref ym Machynlleth
Mae'r rheithgor yn achos y dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones wedi clywed ei gyfweliad cynta' â'r heddlu.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mae Mark Bridger, 47 oed o Geinws ger Machynlleth, wedi gwadu cyhuddiadau o gipio a llofruddio'r ferch bump oed, ac yn gwadu bwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Yn y cyfweliad eglurodd Mr Bridger sut yr oedd ei gerbyd wedi ei tharo'n ddamweiniol a sut yr oedd wedi ceisio ei hadfywio.
Panig
Dywedodd iddo ei chodi ond nid oedd yn cofio lle oedd wedi gadael ei chorff oherwydd alcohol a phanig.
Roedd y cyfweliad yn un brys a dechreuodd heb gyfreithiwr Mr Bridger yn bresennol.
Pan oedd y Ditectif Gwnstabl Louise Thomas wedi gofyn: "Ellwch chi esbonio ble mae April?" dywedodd iddo fod mewn noson rhieni cyn ychwanegu: "Dwi ddim yn gwybod ble mae hi."
Yna dywedodd: "Dwi'n alcoholig... yn yfed rhwng 15 ac 20 peint y dydd a hanner potel o fodca..."
Wedyn ceisiodd esbonio beth ddigwyddodd i April.
'Ffrynt y car'
"Roedd dwy ferch ar eu beiciau... dwi ddim yn deall... fe gododd y car ond chlywis i ddim.
"Agorais i ddrws y car, cerdded o gwmpas y car ac o dan ffrynt y car roedd April..."
Dywedodd iddo godi'r ferch. "Mi oedd hi'n fach...
"Mi wnes i afael yn ei llaw. Doedd dim ymateb."
Clywodd y rheithgor fod y cyfweliadau heddlu rhwng Hydref 4 a 6 a bod cofnodion yn 500 o dudalennau o hyd.
Roedd Mr Bridger wedi dweud wrth yr heddlu iddo chwilio am April yn ei dŷ.
"Mi wnes i baned o de a phenderfynu bod angen chwilio amdani.
'Ddim yn siwr'
"Mi wnes i chwilio'r car a cherdded ar hyd yr ardd rhag ofn y byddai yno.
"Dwi ddim yn siwr a oedd hi gyda mi pan es i'n ôl i'r tŷ."
Dywedodd wrth yr heddlu na fyddai wedi cael gwared ar y corff.
"Fy ffrindiau i yw Paul a Coral a dwi wedi lladd eu merch nhw."
Ynghynt cafodd y rheithgor olwg ar y cerbyd yr honnwyd iddo gael ei ddefnyddio i'w chipio.
Hefyd mi welon nhw feiciau April a'i ffrind y noson yr aeth hi ar goll.
Ar ôl yr ymweliad anfonodd y rheithgor gwestiynau i'r barnwr.
Un o'r cwestiynau yw a oedd y radio a system larwm yn y cerbyd yn gweithio.
Dywedodd y barnwr y byddai rhai o'r cwestiynau'n cael eu hateb fel rhan o'r dystiolaeth.
Aeth April ar goll wrth chwarae ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1 y llynedd.
Negeseuon testun
Cyfeiriodd yr erlynydd fore Iau at y negeseuon testun oedd wedi eu hanfon rhwng Mr Bridger a menyw o Ynys Wyth.
Gyrrwyd negeseuon rhyngddo ef a'i gyn cariad Vicky Fenner y diwrnod yr aeth April Jones ar goll.
Dywedodd un neges: "Ti oedd fy mhabi i, roeddet ti yn bopeth i fi ... os yw hyn yn golygu rhywbeth, dw i dal mewn cariad gyda thi ..."
Hefyd ar Hydref 1 mi gysylltodd Mr Bridger gyda'i gyflogwr Cheryl Harper i ddweud na fyddai yn y gwaith.
Dywedodd fod rhaid iddo fynd i swyddfeydd y cyngor ac i'r orsaf heddlu.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2013

- Cyhoeddwyd14 Mai 2013

- Cyhoeddwyd13 Mai 2013

- Cyhoeddwyd10 Mai 2013

- Cyhoeddwyd9 Mai 2013

- Cyhoeddwyd8 Mai 2013

- Cyhoeddwyd7 Mai 2013

- Cyhoeddwyd2 Mai 2013

- Cyhoeddwyd3 Mai 2013