Oedi cyn achub criw o'r mor

  • Cyhoeddwyd
RAF Valley helicopterFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi yn 'hynod o anarferol' fod problemau technegol yn effeithio ar bedwar hofrennydd ar yr un pryd

Chafodd criw oedd wedi mynd i drafferthion ar long cargo ddim eu hachub am gyfnod oherwydd problemau technegol gyda hofrennyddion achub.

Dyna gasgliad adroddiad gan ymchwilwyr i ddamweiniau ar y môr.

Ar Ebrill y 3ydd 2012 doedd dim modd defnyddio'r hofrenyddion oedd wedi eu lleoli yn RAF Y Fali yn Ynys Môn i helpu'r criw oedd ar y môr yng Ngogledd Cymru.

Bu'n rhaid i hofrennydd deithio o Swydd Efrog i'w cyrraedd, a hynny drwy stormydd eira.

Diffyg dealltwriaeth

Nododd yr adroddiad hefyd fod capten y llong oedd yn dod o wlad Pwyl ddim yn deall ystyr rhai o'r geiriau Saesneg oedd wedi eu defnyddio yn y rhagolygon tywydd.

Roedd hyn wedi golygu bod yna oedi wedi bod cyn i'r llong gychwyn ar ei thaith o'r lanfa yn Llanddulas lle'r oedd hi wedi bod yn llwytho calchfaen.

Y llongFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fethodd y llong a symud o'r lanfa yn Llanddulas oherwydd gwyntoedd cryfion

Fe olygodd hyn fod cryfder y gwynt wedi codi ac fe aeth y llong i drafferthion wrth ymyl ffordd arfordirol yr A55.

Llifodd ryw 33,000 litr o olew i'r môr ond chafodd neb ei anafu.

Mae adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer yr awdurdodau.

Ma'r adroddiad hefyd yn cydnabod ei bod hi yn 'hynod o anarferol' nad oedd yr hofrennyddion yn Y Fali ddim wedi gallu cael eu defnyddio'r diwrnod hwnnw.

Casgliadau

Prif gasgliadau'r adroddiad oedd:

*Nid oedd gan staff y lanfa brofiad arwyddocaol ar y môr

*Fe ganiataodd y gweithwyr hefyd i'r llong i barhau i lwytho calchfaen er bod y tywydd wedi gwaethygu

*Roedd hi yn 'hynod o anarferol' bod gan hofrennyddion yn y Fali broblemau technegol ar yr un pryd

*Doedd capten y llong ddim yn deall ystyr rhai o'r geiriau Saesneg yn y rhagolygon tywydd

Straeon perthnasol