Dim trawsblaniadau 'anarferol'
- Cyhoeddwyd

Gallai'r drefn newydd ddod i rym erbyn 2015
Ni fydd mathau anarferol o drawsblaniadau fel dwylo neu wynebau yn digwydd o dan sustem caniatâd tybiedig, yn ôl y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.
Bydd newid arfaethedig i'r ddeddf yng Nghymru yn golygu rhagdybiaeth fod pawb wedi cytuno i fod yn rhoddwr organau pan fyddan nhw'n marw oni bai eu bod wedi datgan fel arall.
Yng nghyfarfod Pwyllgor Iechyd y Cynulliad oedd yn trafod gwelliannau i'r Mesur Trawsblaniadau Dynol mae rhai wedi mynegi pryder y dylai'r ddeddf ond ymwneud â llawdriniaethau sy'n achub bywyd.
Dywedodd Mr Drakeford wrth y pwyllgor trawsbleidiol ei fod yn cytuno a dywedodd y byddai gan y Cynulliad llawn gyfle i bleidleisio ar newid y rheolau fel bod trawsblaniadau "cyfansawdd" ddim yn digwydd yn achosion caniatâd tybiedig.
Fe fyddai hynny, meddai, yn caniatáu i'r ddeddf aros yn unol ag ymarfer newydd, gan olygu y gallai llawdriniaethau newydd gael eu gwneud wrth iddyn nhw ddod yn rhan o'r brif ffrwd.
Gwrthod gwelliant
O dan y ddeddf arfaethedig byddai gan bobl Cymru gyfle i ymuno â chofrestr rhoi organau neu gofrestru i ddewis peidio â rhoi eu horganau.
Bydd rhagdybiaeth fod rhywun sydd heb wneud yr un o'r ddau yn cydsynio i ddefnyddio'u horganau ar gyfer trawsblaniadau.
Mae'r pwyllgor wedi gwrthod gwelliant arall fyddai'n caniatáu i deuluoedd wrthod tynnu organau o bobl oedd heb fynegi barn ar sail "barn debygol y person fu farw".
Cyflwynwyd y gwelliant gan y Ceidwadwr Darren Millar AC ddywedodd mai teuluoedd oedd yn y sefyllfa orau i wybod dymuniad y person fu farw.
Dywedodd Mr Drakeford y dylai teuluoedd ond gael atal rhoi organau os oedden nhw'n gwybod i sicrwydd mai dyna oedd barn yr ymadawedig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013
