Tad yn gwadu llofruddio ei fab 24 oed
- Cyhoeddwyd

Bu farw Joshua Reece Davies y penwythnos diwethaf
Mae dyn 54 oed wedi gwadu llofruddio ei fab, a gafodd ei ddarganfod wedi'i drywanu yng nghartref y teulu yng Nghaerdydd.
Yn Llys y Goron Caerdydd, fe blediodd Neil John Davies yn ddi-euog i'r cyhuddiad ei fod wedi lladd ei fab, Joshua Reece Davies.
Roedd y dyn 24 oed wedi cael ei ddarganfod wedi cael ei drywanu ar ôl iddo fod yn gwylio gêm rygbi rhwng Cymru a Lloegr.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r fflat yn Llanrhymni, Caerdydd, yn gynnar ar fore Sul, Mawrth 17.
Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Clywodd y llys fod gan Mr Davies anafiadau i'w wddf, ei frest a'i abdomen.
Fe siaradodd ei dad i gadarnhau ei enw a chyflwyno ei ble yn unig.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yr achos yn ei erbyn yn dechrau ar Fedi 16.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2013