Stadiwm: 'Cynlluniau mawr' erbyn 2014-5
- Cyhoeddwyd

Yn y pen draw, gallai'r stadiwm gynnwys 38,000 o seddi.
Bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn dal 32,500 o gefnogwyr erbyn 2014-15, yn ôl cynigion.
Cafodd cynrychiolwyr y cefnogwyr wybod am y cynigion a gallai'r gwaith ddechrau erbyn Medi os yw'r cais am ganiatâd cynllunio'n llwyddiannus.
Bydd rhes ychwanegol yn Eisteddle Ninian yn golygu 5,000 o seddi.
Yn y pen draw, gallai'r stadiwm gynnwys 38,000 o seddi.
'Argraff fawr'
Dywedodd cadeirydd ymddiriedolaeth y cefnogwyr Tim Hartley: "Mae'r cynlluniau wedi creu argraff fawr arnon ni a'r bwriad i wneud hyn mor gyflym.
"Ac mae'n gyffrous bod y perchnogion am gynyddu nifer y seddi. Mae hyn yn dangos eu hymroddiad."
Bydd yr Adar Gleision yn y gynghrair ucha' y tymor nesa', y tro cynta' ers hanner canrif.
Cafodd cynrychiolwyr y cefnogwyr wybod am gyfleusterau hyfforddi newydd yn Hensol ym Mro Morgannwg.
Dywedodd Mr Hartley: "Mae'r manylion mor drawiadol â rhai'r stadiwm.
"Yn sicr, mae'n amlwg bod y clwb am symud yn gyflym er mwyn cael cyfleusterau addas ..."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2013

- Cyhoeddwyd30 Mai 2013

- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013
