Gweithwyr yr Awyrlu ar streic
- Cyhoeddwyd

Mae gweithwyr sy'n glanhau canolfan yr Awyrlu yn Y Fali yn streicio oherwydd eu bod yn anfodlon â chodiadau cyflog.
Mae staff sifil mewn tair o ganolfannau'r Awyrlu yng Nghymru yn streicio oherwydd anghydfod ynglŷn å chyflogau.
Bydd aelodau o undebau Unite a GMB sy'n gweithio ar safleoedd yr Awyrlu yn Llanrwst, Y Fali ar Ynys Môn, a'r Friog ger Dolgellau yn cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol.
Yn ôl undeb y GMB mae'r gweithwyr hyn yn cael eu cyflogi gan gwmni ISS sy'n darparu bwyd a gwasanaethau glanhau ar gyfer y canolfannau.
Mae streic ar safleoedd milwrol yn brin ond dywedodd ISS na fydd gwaith y RAF yn cael ei effeithio.
Fe wnaethon nhw bleidleisio o blaid streic oherwydd eu bod yn anhapus efo cynnig yr ISS o godiad cyflog o 8c yr awr.
Yn ôl y GMB roedd gweithwyr sydd yn derbyn yr isafswm cyflog, £6.19 ar hyn o bryd, ond wedi derbyn cynnig codiad o 2c yr awr.
'Ie uchel'
Dywedodd Sian McClarence, swyddog rhanbarthol undeb GMB: "Nid yw troi at weithredu diwydiannol yn rhywbeth fyddai ein haelodau yn wneud yn ysgafn, hyd yn oed wrth gael eu gwawdio. "
Mae'r ISS yn dweud eu bod yn "siomedig" bod 120 o'i 3,000 o staff ar safleoedd yr Awyrlu wedi gwrthod y codiad cyflog o 1% sy'n cael ei gynnig.
Mewn datganiad dywedodd: "Mae'r rhai sydd wedi pleidleisio dros streic wedi mwynhau cynnydd uwch na'r cyfartaledd cyflog yn y blynyddoedd diwethaf ac yn llawer mwy na'r codiadau cyflog y mae gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus wedi eu cael, gan gynnwys llawer o bersonél y lluoedd arfog maen nhw yn eu cefnogi."
Mae'r Awyrlu yn dweud bod y streic yn fater i ISS gan mai nhw sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn y canolfannau fydd yn cael eu heffeithio gan y streic.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2013