Prif gwnstabl: mwy o fanylion
- Cyhoeddwyd

Cyhoeddodd Carmel Napier ei hymddeoliad ar Fehefin 7 wedi gyrfa 30 mlynedd yn yr heddlu
Mae Panel Heddlu a Throsedd Gwent yn cwrdd â'r Comisiynydd Heddlu er mwyn cael mwy o fanylion wedi i brif gwnstabl orfod gadael ei swydd.
Eisoes mae'r comisiynydd Ian Johnston wedi cyfadde' iddo orfodi Carmel Napier i ymddeol yn ddisymwth.
Os yw prif gwnstabl yn gadael swydd rhaid cyfeirio'r mater i'r panel sy'n cynnwys hyd at 20 o aelodau, er mai'r comisiynydd sy' â'r penderfyniad terfynol.
Bydd Mr Johnston yn sôn ddydd Gwener am ei gynlluniau i lenwi swydd Mrs Napier.
Cyhoeddodd hithau ei hymddeoliad ar Fehefin 7 wedi gyrfa o 30 mlynedd yn yr heddlu.
Ychydig ddyddiau wedyn daeth i'r amlwg ei bod wedi cael ei gorfodi i adael yn sgil sawl ffrae â'r comisiynydd.
Tanseilio

Y comisiynydd Ian Johnston oedd â'r penderfyniad terfynol.
Roedd Mr Johnston, cyn brif uwcharolygydd yn Heddlu Gwent, wedi beirniadu ei dull rheoli.
Wedyn anogodd hi Lywodraeth y DU i ystyried a oedd pwerau comisiynydd yn tanseilio annibyniaeth yr heddlu wrth blismona.
Dywedodd y Cynghorydd John Guy, cadeirydd y panel, ei fod "yn gwybod am y pryderon yn sgil ymddeoliad Mrs Napier" ac y byddai aelodau'r panel yn gofyn am fwy o wybodaeth am yr amgylchiadau ddydd Gwener.
Eisoes mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud bod ei hymddeoliad yn codi cwestiynau ac mae rhai Aelodau Seneddol wedi dweud bod yr hyn wnaeth y comisiynydd yn cyfateb i fwlio.
Roedd y Swyddfa Gartref wedi dweud bod comisiynwyr yn "llais gwirioneddol" ar ran yr etholwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2013
