Donaldson yn dal yn y ras
- Cyhoeddwyd

Jamie Donaldson yn cipio Pencampwriaeth Abu Dhabi yn gynharach eleni
Mae Jamie Donaldson yn dal yn y ras i ddal ei afael ar Bencampwriaeth Golff Iwerddon ar gwrs Carton House yn Maynooth, Swydd Kildare.
Ar ddiwedd ei ail rownd, roedd bedair ergyd yn well na'r safon yn dilyn rownd o 71 ddydd Gwener.
Mae hynny'n ei adael bum ergyd y tu ôl i'r ceffylau blaen hanner ffordd drwy'r gystadleuaeth.
Fe gipiodd Donaldson Bencampwriaeth Iwerddon yn 2012 - ei fuddugoliaeth gyntaf ar gylchdaith Ewrop erioed - cyn ennill ei ail gystadleuaeth ar y gylchdaith yn Abu Dhabi ym mis Ionawr eleni.
Dim cystal hwyl
Chafodd y Cymry eraill ddim cystal hwyl arni yn Maynooth.
Mae Stephen Dodd yn un arall sydd wedi ennill Pencampwriaeth Agored Iwerddon a hynny yn 2005.
Dyw e heb ddechrau ei ail rownd ond fe gafodd rownd o 71 ar y diwrnod cyntaf sy'n golygu ei fod un yn well na'r safon.
Mae'n annhebyg y bydd y tri arall yn cymhwyso ar gyfer y drydedd rownd.
Mae'r tri - sy'n cynnwys y golffiwr amatur Rhys Pugh - yn waeth na'r safon ar hyn o bryd.
Pencampwriaeth Agored Iwerddon: Cwrs Carton House, Maynooth, Swydd Kildare :-
=1. Peter Uihlein (Unol Daleithiau) = -9
=1. Robert Rock (Lloegr) = -9
=3. Jose Maria Olazabal (Sbaen) = -7
=3. Oscar Floren (Sweden) = -7
=3. Joost Luiten (Iseldiroedd) = -7
Manylion y Cymry :-
=9. Jamie Donaldson = -4
Stephen Dodd = -1
Rhys Pugh (A) = +1
Philip Price = +3
Rhys Davies = +4
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd25 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2012
