Galw am ddileu Cymraeg ail iaith
- Cyhoeddwyd

Dywed Cymdeithas yr Iaith y dylai pob athro newydd gymhwyso fedru cyfathrebu yn y Gymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am ddileu addysg Gymraeg ail iaith yn ysgolion Cymru.
Bydd y mudiad yn cyflwyno papur polisi i adolygiad Llywodraeth Cymru i addysg fel ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011.
Ymhlith cyfres o fesurau eraill, mae'r Gymdeithas hefyd yn galw am gyflwyno lleiafswm o draean y cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg ymhob ysgol.
Maen nhw hefyd yn dweud y dylai pob athro sydd newydd gymhwyso fedru cyflwyno eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y ddogfen a fydd yn cael ei chyflwyno i'r llywodraeth hefyd yn dweud "mai methiant addysgol yw amddifadu unrhyw un o'r sgil hanfodol o fedru cyfathrebu a thrafod ei waith yn Gymraeg".
'Hap a damwain daearyddol'
Mae'r Gymdeithas yn dweud mai 16.8% o ddisgyblion Blwyddyn 9 sy'n cael eu hasesu mewn Cymraeg iaith gyntaf yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru ac ychwanegodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Robin Farrar:
"Rydym yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru - mae'n rhan o etifeddiaeth pawb o bob cefndir.
"Mae'n annheg mai dim ond lleiafrif o bobl ifanc sy'n cael y cyfle i addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, a hynny trwy hap a damwain daearyddol a dewis eu rhieni.
"Dylem anelu at sicrhau bod pob plentyn yn rhugl ac yn cael byw yn Gymraeg, felly mae'r term 'ail-iaith' yn anaddas erbyn hyn.
"Ddylai'r system ddim amddifadu pobl ifanc o'u hawl i fyw yn Gymraeg fel hyn."
Dywed y mudiad hefyd eu bod am weld symudiad tuag at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn cyfran o'u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag astudio Cymraeg fel pwnc "fel bod ganddyn nhw'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg".
Bydd y ddogfen yn cael ei chyflwyno i Gynhadledd Fawr Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth ar Orffennaf 4.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd29 Mai 2013

- Cyhoeddwyd9 Mai 2013
