Plant yn prynu alcohol ar-lein
- Cyhoeddwyd

Dywed adroddiad Alcohol Concern Cymru bod nifer o bobl ifanc yn prynu alcohol ar-lein
Mae adroddiad newydd gan elusen Alcohol Concern Cymru yn rhybuddio bod nifer sylweddol o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn prynu alcohol ar-lein gan archfarchnadoedd.
Daw'r adroddiad ar ddiwedd arolwg o bobl rhwng 14 ac 17 oed, ac mae'n dangos bod 15% o'r rhai a ymatebodd wedi llwyddo i brynu alcohol dros y we, a bod y mwyafrif ohonynt yn ei ystyried yn "hawdd" i wneud hynny er mwyn osgoi gorfod gwirio eu bod dros 18 oed.
Ochr yn ochr â'r arolwg fe wnaeth Heddlu De Cymru wneud cyfres o brofion yn ardal Caerdydd gyda phobl 15 oed er mwyn gweld os oedden nhw'n gallu prynu alcohol ar wefannau'r archfarchnadoedd.
Roedd modd archebu alcohol ar-lein yn hawdd drwy fod â cherdyn credyd a chyfeiriad e-bost.
Mewn 44% o'r achosion prawf, fe gafodd alcohol ei drosglwyddo i'r prynwyr dan oed heb unrhyw wirio oedran.
'Cryfhau prosesau'
Dywedodd Mark Leyshon o Alcohol Concern:
"Nid yw alcohol yn rhywbeth arferol i'w brynu. Mae ganddo'r potensial i fod yn niweidiol yn enwedig i bobl ifanc ac mae angen ei werthu a'i ddosbarthu gyda hynny mewn golwg.
"Mae angen i fanwerthwyr sy'n cynnig gwasanaeth i'r cartref gryfhau eu prosesau er mwyn sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yn medru prynu alcohol yn y modd yma."
Ychwanegodd Sarjant Scott Lloyd o Heddlu De Cymru:
"Mae'r heddlu yn siomedig gyda'r raddfa o fethiant ac fe fyddwn yn gweithio gyda'r archfarchnadoedd er mwyn sicrhau nad yw pobl o dan 18 oed yn medru cael alcohol yn y modd yma."
'Honiadau dienw'
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Consortiwm Manwerthu Cymru:
"Mae ein haelodau yn cymryd eu cyfrifoldebau i beidio gwerthu alcohol i bobl dan oed o ddifri.
"Mae'r côd ymddygiad BIS/BRDO sydd wedi ei fabwysiadu'n ddiweddar yn nodi cyfrifoldebau manwerthwyr a chwsmeriaid.
"Mae sustemau cadarn mewn lle ar gyfer cynnyrch sydd ag isafswm oed ar-lein, ac mae ein gyrwyr wedi eu hyfforddi i ofyn am brawf oedran os oes ganddyn nhw reswm i gredu nad yw'r person o'r oedran cywir.
"Ond mae materion eraill yn codi megis amharodrwydd banciau i nodi ar gardiau banc os yw rhywun o dan 18 oed - byddai hynny'n ffordd haws o gyfyngu ar bryniant ar-lein.
"Mae gan rieni gyfrifoldebau hefyd am y modd y mae eu cardiau nhw'n cael eu defnyddio gan eu plant.
"Gall unrhyw dystiolaeth o gam-werthu - yn hytrach na honiadau dienw mewn arolwg - gael ei chyflwyno i'r manwerthwyr dan sylw ac fe fyddan nhw'n barod iawn i ymchwilio i enghreifftiau penodol a sicrhau bod eu sustemau'n cael eu dilyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd18 Awst 2012

- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012
