Y frech goch: epidemig ar ben
- Cyhoeddwyd

Does dim achosion newydd o'r haint wedi eu cadarnhau ers mis Mai.
Mae epidemig y frech goch yn ne orllewin Cymru wedi dod i ben, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd yr awdurdod nad oedd unrhyw achosion newydd wedi eu cadarnhau ers Mai 22.
Roedd 1,219 o gofnodion o'r haint ers mis Tachwedd 2012, y mwyafrif yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, ond roedd achosion hefyd yn ardaloedd Hywel Dda a Phowys.
Cafodd 88 o bobl driniaeth yn yr ysbyty, a bu farw un dyn 25 oed o achos yr haint.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 75,868 o bobl wedi derbyn brechiadau MMR dros y cyfnod o 8 mis.
Rhybudd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i rybuddio bod 30,000 o blant heb eu brechu ledled Cymru, ac yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant wedi eu diogelu.
Dywedodd Dr Marion Lyons o'r awdurdod: "Does dim achosion o'r frech goch wedi eu cadarnhau ers mis Mai, ac mae'n bosib dweud bod yr ymlediad ar ben."
"Ond rydyn ni yn pryderu am y nifer fawr o bobl ifanc rhwng 10 a 18 oed sydd heb eu brechu."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Rydw i'n croesawu'r newyddion bod ymlediad y frech goch ar ben. Ond mae angen i bobl ifanc sydd heb eu brechu wneud y trefniadau priodol cyn gynted a phosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2013

- Cyhoeddwyd31 Mai 2013

- Cyhoeddwyd14 Mai 2013