Gary Medel yn arwyddo i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Deellir bod Caerdydd wedi talu £11 miliwn am y dyn 26 oed sy'n chwarae i Chile.
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae Gary Medel o Sevilla ar gytundeb pedair blynedd.
Deellir bod Caerdydd wedi talu £11 miliwn am y dyn 26 oed sy'n chwarae i Chile.
"Rydyn ni ar ben ein digon," meddai'r rheolwr Malky Mackay ar wefan swyddogol Dinas Caerdydd.
"Mae Gary'n ddeallus ac yn ddygn."
Talodd Caerdydd £8 miliwn am Steven Caulker a £7.5 miliwn am Andreas Cornelius ddechrau Gorffennaf.
Yr amddiffynnwr John Brayford a'r gôl geidwad Simon Moore yw'r chwaraewyr eraill sy' wedi symud i Gaerdydd dros yr haf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2013

- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2013
