Cyhuddo dyn o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi cyhuddo dyn 26 oed o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yn ardal Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr, ddydd Mercher.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn Heol yr Ysgol am 7:46pm, gan ddarganfod dyn 50 oed yno'n gorwedd.
Fe'i cludwyd i Ysbyty Tywysoges Cymru lle cofnodwyd ei fod wedi marw.
Cafodd y dyn ei enwi fel Kevin Hier, oedd yn 50 oed.
Mae James Curtis, 26 oed o Ynysawdre, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth. Fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan iddo ymddangos gerbron ynadon Pen-y-bont ar Ogwr fore Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2013
