Ble mae mentergarwch y Cymry?
- Cyhoeddwyd

Mae busnes Mark Zuckerberg bellach werth dros $100 biliwn a hynny lai na 10 mlynedd ar ôl ei sefydlu
Mae Cymru ar ei hôl hi o ran nifer y busnesau newydd sy'n cael eu sefydlu yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Maen nhw'n dangos fod y gyfradd yn 9.4% o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 11.4%.
Er hynny mae ymchwil gan Monitor Entrepreneuriaeth y Byd (GEM), yr ymchwil mwyaf o'i fath yn y byd, yn dangos bod yna gysylltiad cryf rhwng pobl ifanc yng Nghymru a gweithgareddau sy'n ymwneud a dechrau busnesau o'i gymharu â gweddill y DU.
Mae sefydliadau fel Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yn awgrymu fod hyn yn dangos nad yw ysbryd mentergarwch yn cael ei drosglwyddo i weithredoedd.
Llwyddiant
Fe wnaeth James Taylor raddio o Brifysgol Caerdydd yn 2005 gyda gradd mewn seicoleg a'r flwyddyn honno fe sefydlodd fusnes sy'n creu cysylltiadau rhwng arbenigwyr ym meysydd drama a chwaraeon gydag ysgolion cynradd.
Dim ond £1,000 wnaeth James ei fuddsoddi'n wreiddiol yn SuperStars ond mae'r busnes bellach yn gweithio gyda 50,000 o blant bob wythnos.
Mae James yn credu mai diffyg hyder yw'r rhan o'r broblem: "Rwy'n meddwl mai'r broblem yma yw bod ofn methu yn rhan o'r diwylliant.
"Yn America os yw rhywun yn mynd ac yn ceisio sefydlu busnes a dyw e ddim yn gweithio'r tro cyntaf, yna maen nhw'n cael eu hannog i geisio eto.
"Ond yma os yw rhywun yn ceisio gwneud rhywbeth ac yn methu mae gennych chi bron fysedd yn pwyntio atoch chi yn dweud 'fe ddudis i yn do'."
Datgysylltedd
Fe wnaeth adroddiad gan y GEM yn 2011 ddarganfod fod 10.2% o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed yng Nghymru'n gwneud gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag entrepreneuriaeth.
Ond ar gyfer yr un flwyddyn cafodd llai o fusnesau eu sefydlu yn y wlad o'i gymharu â gweddill y DU.
Mae'r ffigyrau cyfatebol ar gyfer 2012 newydd gael eu rhyddhau ac mae'r patrwm yn parhau.
Yn ogystal â hynny mae Cymru ar ei hol hi o ran y cynnydd (mewn canran) yn nifer y busnesau newydd gafodd ei sefydlu yn 2012 o'i gymharu â 2011.
Mae rhai'n awgrymu fod pobl ifanc yn fwy tebygol o ystyried gweithio i'w hunain ers yr argyfwng ariannol yn 2008 nag oedden nhw o'r blaen gan ei bod hi wedi mynd yn anoddach cael hyd i swydd.
Dywedodd Michael Learmond o'r FSB: "Mae digon o gefnogaeth ar gael mewn ysgolion a cholegau ac mae digonedd o diwtoriaid da ac ati ac mae nhw yn eu hysbrydoli gyda brwdfrydedd i ddechrau busnesau, ond maen nhw'n cael eu gadael ar eu pen eu hunain yn y diwedd."
Mae hynny'n bwnc wnaeth o godi o flaen Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad yn ystod eu hymchwiliad i entrepreneuriaeth ymysg yr ifanc.
Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod cryfderau o fewn strategaeth y llywodraeth ond fod anghydbwysedd rhwng brwdfrydedd pobl ifanc a'r nifer o fusnesau newydd sy'n cael eu sefydlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd11 Medi 2013
