Cyhoeddi rhestr fer gwobr gelf Artes Mundi
- Cyhoeddwyd

Mae gwaith Omer Fast yn ymchwilio i'r ffordd mae pobl yn cofio breuddwydion

Karen Birza a Brad Butler yw'r unig artistiaid o'r DU ar y rhestr fer

Mae Ragnar Kjartansson, yn dweud bod " cogio yn un o'r dulliau pwysicaf er mwyn cyfleu emosiwn gwir"
Mae'r rhestr fer ar gyfer un o wobrau celf fwyaf y DU wedi ei gyhoeddi.
Mae 10 artist o wyth gwlad wedi eu henwi ar y rhestr ar gyfer gwobr Artes Mundi, sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
Caiff y wobr ei chyflwyno bob dwy flynedd, ac yn 2015 bydd yr enillydd yn derbyn £40,000.
Cafodd y wobr ei sefydlu yn 2002, a bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Caerdydd yn gysylltiedig â'r wobr.
800 o enwebiadau
Cafodd artistiaid o'r DU, Portiwgal, UDA, Israel, Croatia, Gwlad yr Ia, Brasil a'r Iseldiroedd eu cynnwys ar y rhestr fer, allan o 800 o enwebiadau o 70 o wledydd.
Mae'r trefnwyr yn dweud bod y rhestr yn cynnwys rhai o enwau mwyaf y byd celf fodern.
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng nghanol arddangosfa fydd yn para 17 wythnos yn Amgueddfa Celf Genedlaethol Cymru, ar Ionawr 22, 2015.
Dywedodd cyfarwyddwr a churadur Artes Mundi, Karen MacKinnon: "Mae'r beirniaid ar gyfer Artes Mundi 6 wedi dewis grŵp rhagorol o artistiaid o restr enwebiadau byd-eang.
"Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at gael gweithio gyda nhw, a chreu arddangosfa fis Hydref nesaf fydd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol gysylltu gyda gwaith rhai o'r artistiaid rhyngwladol mwyaf cyffrous.
"Bydd artistiaid o wahanol ddiwylliannau a chenhedloedd ac ystod eang o ddulliau artistig.
'Pwysigrwydd gwaith celf'
"Bydd eu gwaith yn rhan o arddangosfa fydd yn heriol, chwareus, emosiynol, ac yn fwy na dim, yn pwysleisio pwysigrwydd gwaith celf sy'n herio ein safbwyntiau ac yn cyfoethogi ein bywydau.
"Mae disgwyl i Artes Mundi 6 fod yn ddigwyddiad diwylliannol pwysig yng Nghaerdydd - profiad cyffrous o berfformiadau, cerddoriaeth, gosodiadau, ffilm, darlithoedd a seminarau yn yr Amgueddfa Genedlaethol a chanolfan celfyddydau Chapter, ac allan ar strydoedd y brifddinas ac ymhellach."
Cafodd y wobr ddiwethaf ei hennill gan yr artist Teresa Margolles o Fecsico, a chafodd y wobr ei chyflwyno gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Roedd ei gwaith yn canolbwyntio ar fywyd yng ngogledd Mecsico, lle mae trosedd a thrais yn digwyddiadau dyddiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2013
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2012