Rhanbarthau rygbi Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus
- Cyhoeddwyd

Mae'r ansicrwydd am ddyfodol y rhanbarthau yn parhau
Mae'r pedwar rhanbarth yng Nghymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r modd maen nhw'n cael eu hariannu.
Mae'r Gleision, y Gweilch, y Scarlets a'r Dreigiau yn dadlau nad ydyn nhw'n gallu cystadlu yn ariannol gyda chlybiau cyfoethocach yn Lloegr a Ffrainc ac, o ganlyniad, eu bod yn cael trafferth dal eu gafael ar eu prif chwaraewyr.
Mae BBC Cymru'n deall fod y clybiau am i Lywodraeth Cymru edrych ar y sefyllfa.
Dyw'r undeb a'r rhanbarthau ddim yn gallu cytuno ar faterion ariannol, y nifer o chwaraewyr o Gymru sy'n gadael i fynd at dimau tramor, na chwaith pa gystadlaethau y dylai'r rhanbarthau gystadlu ynddyn nhw.
Daeth cynrychiolwyr o'r pedwar rhanbarth at ei gilydd i gwrdd ag URC ddydd Mercher i geisio datrys y ffraeo rhyngddynt.
£16.5 miliwn
Er i'r cyfarfod ddod i ben heb gytundeb, dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn "obeithiol" y byddai'r rhanbarthau yn arwyddo cytundeb newydd erbyn diwedd y flwyddyn.
Os na fydd y rhanbarthau yn gwneud hynny, maent yn wynebu colli cyllid o hyd at £16.5m y flwyddyn.
Mae'r rhanbarthau hefyd yn ystyried gadael URC i chwarae mewn cystadleuaeth gyda chlybiau Lloegr y tymor nesaf.
Er nad yw'r undeb wedi ymateb eto i'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus, bydd aelodau o glybiau cefnogwyr rhanbarthau rygbi Cymru yn cwrdd â phrif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, ddydd Llun.
'Rhwystredigaeth'
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ddydd Llun, dywedodd cyn fewnwr Cymru, Brynmor Williams:
"Mae'r alwad yma'n dangos fod y cyfarfod wythnos ddiwetha' ddim wedi helpu o gwbl - mae 'na rwystredigaeth fawr ar ran y rhanbarthau nawr.
"Mae'n amlwg bod y berthynas yn ddifrifol ofnadwy - mae'n drueni mawr bod nhw'n methu cytuno o gwbl.
"Mae'r rhain yn gamau anobeithiol gan y rhanbarthau i geisio cael rhyw fath o ymateb. Efallai bod hi'n bryd cael y cynulliad i ddod mewn i'r ddadl.
'Arian yn hollbwysig'
Ychwanegodd: "Mae pawb yn pryderu'n ofnadwy am beth sy'n digwydd, y cefnogwyr a phawb. Mae'n rhaid cael rhyw fath o ymateb cyn bo hir.
"Mae'n rhaid cymharu gyda beth sy'n digwydd dros Ewrop, o ran hysbysebu ac ati. Mae pob gwlad arall yn manteisio'n well ac yn cael mwy mas na Chymru.
"Mae'r arian yn hollbwysig i gadw'r chwaraewyr yng Nghymru a sicrhau bod beth sy'n digwydd yng Nghymru o'r safon gorau posib fel bod pobl yn dod i weld y gemau.
"Mae'n poeni ni gyd y bydd rhai o'r rhanbarthau yma'n mynd mas o fusnes, ac mae chwaraewyr yn poeni am eu cytundebau hefyd.
"Mae pawb yn cysylltu Cymru gyda rygbi. Mae'n rhan o etifeddiaeth Cymru - mae'r economi gyd yn elwa o rygbi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2013
