Plant maeth: Angen mwy o deuluoedd
- Cyhoeddwyd

Mae'r elusen yn dweud bod angen mwy o deuluoedd maeth
Mae angen o leiaf 550 o deuluoedd maeth ychwanegol yng Nghymru i gwrdd â galw cynyddol yn ôl Rhwydwaith Mathu Cymru.
Dywed yr elusen fod 3,500 o deuluoedd maethu yn gofalu am bron 4,400 o blant yng Nghymru.
Yn ôl Rhwydwaith Maethu Cymru mae angen mwy o deuluoedd oherwydd bod tua 12% o'r teuluoedd presennol sy'n maethu yn rhoi'r gorau iddi bob blwyddyn.
Dywedodd Freda Lewis, cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru fod angen mwy o deuluoedd hefyd er mwyn sicrhau bod y plant yn cael eu rhoi gyda gofalwyr addas.
"Mae angen sicrhau fod gan y gofalwyr y sgiliau a'r galluoedd priodol.
"Oni bai fod yna ddigon o deuluoedd sy'n fodlon maethu, bydd rhai plant yn gorfod byw ym mhell o'u teuluoedd, eu hysgolion a'u ffrindiau, neu byddant yn cael eu rhoi yng ngofal gofalwr maeth sydd heb y sgiliau cywir a phrofiad digonol i gwrdd â'u hanghenion penodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2013

- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd25 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd9 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd18 Mai 2012

- Cyhoeddwyd17 Mai 2012

- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012
