Tîm Achub y Fali yw'r prysuraf y DU
- Cyhoeddwyd

Cafodd Tîm Achub y Fali ei alw 323 o weithiau yn 2013
Tîm Chwilio ac Achub sydd â'i bencadlys yn y Fali ar Ynys Môn yw'r prysuraf yn y DU, am yr ail flwyddyn yn olynol.
Cafodd hofrennydd Sgwadron 22 ei alw 323 o weithiau yn 2013, gan roi cymorth i 298 o bobl dros y flwyddyn.
Dywedodd y Capten Grŵp, Sara Mackmin, Cadlywydd Adran Chwilio ac Achub yr Awyrlu ei bod hi'n "hynod o falch".
Roedd y Tywysog William yn rhan o'r adran nes iddo adael yn 2013.
Mae'r tîm yn un o chwe uned chwilio ac achub sydd gan yr Awyrlu dros y DU, ac mae'r aelodau yn gorfod delio hefo tirwedd amrywiol yn cynnwys clogwyni wrth y môr a mynyddoedd Eryri.
Roedd cyfanswm y galwadau i griwiau'r Fali yn fwy na chwarter yr holl alwadau dros y DU y llynedd, sef 1,202.

Cafodd 298 eu helpu gan y tîm, sy'n achub pobl mewn trafferth a cludo pobl wael i ysbytai
Mae eu gwaith yn cynnwys achub pobl sydd mewn trafferth, a chludo pobl sydd yn ddifrifol wael i'r ysbyty.
Yn siarad am griwiau Ynys Môn, dywedodd Capten Mackmin: "Yn ystod y gaeaf caled a hir rhwng Ionawr ac Ebrill, nid yn unig wnaeth Adran C lwyddo i gwblhau nifer uwch na'r cyfartaledd o hediadau, ond mewn rhai o'r amodau gwaethaf mae Eryri wedi ei weld ers llawer blwyddyn.
"Rydw i'n falch iawn o'r holl ddynion a merched dan fy awdurdod sy'n mynd allan ddydd a nos, ym mhob tywydd, gydag un amcan - i achub bywydau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012
