Norofirws yn effeithio ar ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae 'na gyfyngiadau ar dair ward yn Ysbyty Glan Clwyd
Dywed swyddogion iechyd y dylai ymwelwyr draw o Ysbyty Llandochau ym Mro Morgannwg o oherwydd achosion o Norofirws.
Mae cleifion ar ddwy ward yn dioddef o'r salwch stumog.
Dywed bwrdd iechyd Caerdydd a'r fro eu bod am i bobl fod yn synhwyrol a'i bod yn fwy tebygol na fydd yr haint yn lledaenu pe bai ymwelwyr yn cadw draw.
Mae'r clefyd yn gallu symud yn gyflym o un person i'r llall.
Dywedodd Alice Casey o fwrdd iechyd Caerdydd a'r fro: "Rydym yn gweld salwch achos o norofirws yr adeg yma o'r flwyddyn. I'r rhan fwyaf o bobl mae'n brofiad annifyr ond nid yn ddifrifol.
"Ond pan mae'r clefyd yn lledu i ysbytai, lle mae cleifion eisoes yn sâl, fe allai'r canlyniadau fod yn fwy difrifol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd29 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd24 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012