NIACE Dysgu Cymru'n poeni am doriadau i addysg i oedolion
- Cyhoeddwyd

Mae NIACE Dysgu Cymru - y prif grŵp sy'n cynrychioli addysg i oedolion yng Nghymru - yn dweud eu bod nhw'n poeni'n fawr am y toriadau mae addysg i oedolion yng Nghymru yn wynebu.
Yn ôl y sefydliad, sydd hefyd yn gyfrifol am hybu addysg bellach ymysg oedolion, bydd cyllid Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn lleihau 37.5%, a cholegau a sefydliadau addysg bellach yn cael 33% yn llai o arian ar gyfer eu darpariaeth ran-amser.
Yn ogystal, mae NIACE yn dweud y bydd y toriad o 4% i gyllid cynghorau lleol yn effeithio ar oedolion sy'n awyddus i ddysgu.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n mynnu y byddan nhw'n ceisio lleihau'r effaith.
Wrth i ganlyniadau diweddar PISA ddangos bod disgyblion Cymru ar ei hol hi o ran rhifedd a llythrennedd, mae ffigyrau NIACE yn dangos fod gan Gymru ganran uwch o oedolion sydd mewn oed gwaith ond sydd heb gymwysterau, nac yn Lloegr a'r Alban.
Mae gan Gymru hefyd y cyflog wythnosol isaf, yn ogystal â'r gyfradd uchaf o ddiweithdra ledled Prydain.
'Penderfyniadau anodd'
Meddai Prif Weithredwr NIACE, David Hughes:
"Rydym ni'n deall fod rhaid i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau anodd am y gyllideb - yr anodda' ers datganoli, efallai. Ond rydym ni'n credu mai'r allwedd yw buddsoddi mewn cyfleoedd addysg i oedolion, er mwyn creu rhagor o swyddi a sicrhau twf economaidd. Mae tystiolaeth glir bod buddsoddiad yn y maes yn hybu lefelau sgiliau."
"Mae NIACE Dysgu Cymru'n gweithio gyda'n partneriaid i geisio gweld beth fydd effaith y toriadau a chwilio am ffyrdd i leihau'r goblygiadau i'r maes."
"Rydym ni'n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda ni i asesu effaith hirdymor y toriadau ariannol. Wrth i'r boblogaeth fynd yn hŷn, mae'n rhaid i bobl weithio'n hirach ac mae costau gofal ac iechyd yn cynyddu.
"Mae oedolion angen cyfleoedd i ailwampio a diweddaru eu sgiliau a'u gwybodaeth er mwyn aros yn heini.
"Wrth gwrs, wrth i rieni ddysgu, maen nhw wedyn yn trosglwyddo'r llwyddiannau i'w plant. Rydym ni'n credu fod y lleihad sylweddol hwn mewn cyllid i'r maes yn mynd i fod yn niweidiol i'r genedl yn y dyfodol."
Yn eu dadansoddiad nhw o effaith y toriadau, mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys dadl NIACE Cymru.
Ond maen nhw hefyd yn mynnu y byddan nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau effaith y toriadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2012