Scarlets 20-22 Harlequins
- Cyhoeddwyd

Er gwaetha'r ymdrechion, mae'r gobeithion yn Ewrop wedi dod i ben.
Mae gobeithion y rhanbarthau yn Ewrop wedi dod i ben wrth i'r Scarlets golli i'r Harlequins.
Fe gafodd y Scarlets hwb yr wythnos diwetha' wrth drechu Racing Metro o 19-13 i ffwrdd.
Ond siomedig oedd y canlyniad ddydd Sul.
Yr eilydd Ben Botica seliodd fuddugoliaeth yr Harlequins sy'n golygu bod y Saeson yn cyrraedd wyth ola' Cwpan Her Amlin.
Botica, yr oedd ei dad Frano yn arfer chwarae i'r Scarlets, giciodd gic gosb wedi 77 o funudau.
Bydd yr Harlequins yn wynebu Stade Francais ym Mharis a'r ddau dîm chwaraeodd yng ngêm derfynol Cwpan Her Amlin yn 2011.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014
