Turnbull yn symud at y Gleision
- Cyhoeddwyd

Mae Josh Turnbull yn dweud ei fod eisiau cael cyfle unwaith eto i chwarae dros Gymru
Mae Josh Turnbull wedi arwyddo cytundeb gyda Gleision Caerdydd.
Ar hyn o bryd mae'r dyn 25 o Hwlffordd yn chwarae gyda'r Scarlets ac wedi bod gyda'r clwb ers 2007.
Mi gafodd Turnbull ei ddewis i fod yn rhan o garfan Cymru y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011 a'i gêm gyntaf dros ei wlad oedd yn erbyn yr Alban pan ennillodd Cymru o 24-6. Cafodd ei ddewis hefyd ar gyfer y daith i Awstralia yn 2012.
Mae Cyfarwyddwr Rygbi'r Gleision, Phil Davies yn dweud eu bod nhw wedi bod yn chwilio am flaen asgellwr a bod arwyddo Josh Turnbull yn newyddion da i'r tîm.
"Gyda Andries Pretorius ar fin mynd a Michael Paterson wedi gadael y llynedd, roedden ni yn chwilio am rywun i chwarae yn y safle yma.
"Mi oedd y cyfle i arwyddo Josh yn rhywbeth enfawr i ni. Dw i yn ei adnabod yn dda ers fy ngyfnod gyda'r Scarlets a fi wnaeth roi y cyfle cyntaf iddo. Dw i wastad wedi cadw golwg arno ac yn ei edmygu fel chwaraewr."
Datblygu gyrfa
Dywedodd Turnbull: "Dw i wedi chwarae gyda'r Scarlets ers saith mlynedd ac yn teimlo mai nawr yw'r amser ar gyfer sialens newydd.
"Mae'r Gleision eisiau cryfhau safle rhif chwech a dyna'r safle dw i eisiau chwarae. Dw i wedi chwarae ar y rheng ôl ond dw i eisiau canolbwyntio ar un safle a datblygu fy ngyrfa."
Ychwanegodd mai ei obaith yw chwarae eto dros Gymru:
"Dw i'n teimlo y bydd canolbwyntio ar un safle bob wythnos yn golygu y byddai yn gwella. Gobeithio y galla'i ddatblygu a chwarae ar lefel rhyngwladol eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014
