Cais gan CADW i gofrestru pencadlys y BBC
- Cyhoeddwyd

Mae'r Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf ar werth ers mis Awst
Mae'r corff sy'n gofalu am adeiladau a henebion yng Nghymru wedi derbyn cais i ystyried rhoi statws cofrestredig i bencadlys BBC Cymru yng Nghaerdydd.
Mae BBC Cymru wedi rhoi'r adeilad yn Llandaf ar werth fel rhan o gynllun i symud i gartref newydd yn y ddinas.
Ond dywedodd Cadw eu bod yn ystyried os yw'r adeilad yn cwrdd â meini prawf statws cofrestredig.
Dywedodd BBC Cymru bod ganddyn nhw "bryderon sylweddol" am y mater.
Bu'r Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf yn gartref i BBC Cymru ers 1966. Ym mis Awst cyhoeddwyd bod yr adeilad, ynghyd â Thŷ Oldfield dros y ffordd, ar werth gyda'r bwriad o symud i safle gwahanol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cadw: "Mae dyletswydd statudol i gofrestru unrhyw adeilad sy'n cwrdd â'r meini prawf i fod ar y gofrestr.
"Ni fyddai'n briodol i wneud sylw ar rinweddau'r cais tra ei fod o dan ystyriaeth."
Ar ran BBC Cymru fe ddywedodd llefarydd: "Gallwn gadarnhau ein bod wedi ysgrifennu at Cadw mewn ymateb i lythyr a anfonwyd atom yn gofyn am ein barn am gofrestru'r adeilad cyfan yn Llandaf.
"Mae gennym nifer o bryderon sylweddol am eu cynlluniau, ac rydym yn gobeithio y bydd Cadw nawr yn eu hystyried yn ofalus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2013
