Mwy na 300 yn ymgeisio am ddwy swydd yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd

Mae mwy na 300 wedi ymgeisio am ddwy swydd mewn siop hufen iâ yn Abertawe.

Fel arfer, mae tua 30 yn ymgeisio.

Dywedodd Hani Omar o siop Baskin Robbins ei bod yn "hurt" fod cymaint wedi ymgeisio am y swyddi isafswm cyflog o fewn wythnos.

Yn y diwedd, meddai, fe lwyddodd i gyfweld 20 o ymgeiswyr.

"Roedd yr ymateb yn anhygoel ...

"Y rheswm yw does dim swyddi. Mae pawb yn y ddinas yn chwilio am swydd.

"Yng nghanol y ddinas mae rhai o'r siopau wedi cau, pobol wedi colli eu swyddi a hyn sy'n esbonio'r sefyllfa."

Straeon perthnasol