Carchar am oes am lofruddio 'cawr mwyn'
- Cyhoeddwyd

Mae Jamie Curtis wedi'i ddedfrydu i garchar am oes.
Mae Jamie Curtis, 26, wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddiaeth Kevin Hier yn Ynysawdre, Pen-y-bont ar Ogwr, ym mis Hydref 2013.
Cafodd Kevin Hier ei ddarganfod yn ei gartref ar Hydref 23 a bu farw yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Yn Llys y Goron Caerdydd dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Simon Davies: "Ni fydd yr un ddedfryd yn gwneud yn iawn i deulu Kevin am eu colled sydyn a thorcalonnus.
"Drwy bledio'n euog, mae Curtis wedi derbyn cyfrifoldeb am yr hyn wnaeth ac mae wedi derbyn carchar am oes sy'n golygu y bydd yn treulio nifer o flynyddoedd dan glo ...
"Mae meddyliau pawb, sy'n gysylltiedig â'r achos hwn, gyda theulu Kevin, tystion y drosedd ofnadwy hon a gyda chymuned Ynysawdre oedd wedi cael eu synnu gan achos brawychus ond prin. "
Dywedodd teulu Kevin Hier, 50, ei fod yn "gawr mwyn" fyddai'n mynd allan o'i ffordd i helpu unrhywun mewn angen.
Fe oedd cynhaliwr ei fam.
Teyrnged teulu
Wrth siarad y tu allan i'r llys ddydd Llun, dywedodd nith Mr Hier, Sian Thomas, 28: "Rwy'n teimlo'n hapus ond i mi 'dyw hyd y ddedfryd yn dal ddim yn ddigon.
"Ddylai hyn ddim bod wedi digwydd ac fe ddylai Kev fod yma o hyd.
"Os yw'n cael cerdded yn rhydd ar ôl 23 blynedd yn y carchar fe fydd yn 49 mlwydd oed, ond fe laddodd Kev pan oedd e'n 50 ac roedd ganddo flynyddoedd yn dal i fynd - mae'n fy ngwneud i'n dost.
"Alla' i ddim disgrifio pa mor hyfryd oedd Kev - fe fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un.
"Roedd yn ddyn bendigedig ac yn edrych ar ôl ei fam a'i gyn wraig Lesley pan oedd ganddi ganser y fron ac yn cael cemotherapi.
"Roedd yn ddyn diffuant a gonest."
Ychwanegodd ei gyn wraig, Lesley Hier, 54: "Roedd Kevin yn ddyn aruthrol ac fe helpodd fi i fagu fy mab a helpu gyda'r wyrion a'r wyresau, ac i fagu ei nai Shane.
"Alla' i ddim rhoi mewn geiriau'r hyn hoffwn i ddweud wrth Curtis - hoffwn i wybod pam.
"Oedd hi'n werth e? Oedd hi'n werth hyn i gyd - bywyd dyn a'r holl fywydau sydd wedi'u dinistrio.
"Mae gan bobl Tondu ofn ac maen nhw mewn sioc am yr hyn ddigwyddodd y noson honno - mae fel rhywbeth o ffilm arswyd.
"Mae mam Kevin eisiau diwedd ar hyn nawr a'i gofio am bwy oedd e."

Aelodau teulu Kevin Hier y tu allan i'r llys
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd26 Hydref 2013
