Campwaith Constable mewn arddangosfa yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae 'Salisbury Cathedral from the Meadows (1831)' yn un o gyfres o ganfasau anferth "chwe troedfedd" yr artist
Mae un o'r lluniau enwoca' gan artist o Brydain yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru am chwe mis.
Yn ôl adroddiadau, roedd tirlun Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 ymysg y gweithiau yr oedd John Constable yn fwya' balch ohono.
Caerdydd yw rhan gyntaf taith y tirlun ledled Prydain, a dywedodd yr amgueddfa y byddai'r benthyciad yn ychwanegu at y casgliad presennol o dirluniau.
Ychwanegodd y prif gyfarwyddwr ei fod o'n gobeithio y byddai ymwelwyr yn bachu ar y cyfle i "weld y darlun pwysig hwn".
Dywedodd David Anderson: "Rydym ni wrth ein boddau ein bod ni'n cael croesawu un o gampweithiau celf Prydain yma i'r Amgueddfa Genedlaethol.
'Gweddu'n berffaith'
"Fe fydd Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 yn gweddu'n berffaith i'n casgliad o gelf hanesyddol yn ystod ei gyfnod yma yng Nghaerdydd."
Fe fydd y Constable yn cael ei arddangos gyda A Cottage in a Cornfield - darn arall gan yr artist sydd â'i gartref yn yr amgueddfa - yn ogystal â gweithiau gan Turner, Wilson a Van Gogh o'r casgliad cenedlaethol.
Mae'r arddangosfa yn rhan o bartneriaeth pum mlynedd o hyd rhwng pump o sefydliadau gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri a'r Gronfa Gelfyddydau.
Ers 1983, mae'r darlun o Gadeirlan Salisbury wedi bod ar-fenthyg yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain, cyn i oriel y Tate ei brynu am £23.1m fis Mai y llynedd.
Fe gafodd y darlun ei arddangos yn gyntaf yn Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol yn 1831 yn Birmingham, a dywedodd Constable ei fod o am i gymaint o bobl â phosib weld y llun.
Fe gyfeiriodd Constable at y llun fel "The Great Salisbury" gan ysgrifennu fod rhai wedi dweud wrtho "fy mod wedi ei gael i edrych yn well nag unrhywbeth arall i mi ei wneud".
Fe fydd y darlun yn cael ei arddangos yng Nghaerdydd o Fawrth 7 i Fedi 7.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2013
