Corff Casnewydd: Heddlu'n cadarnhau mai Nida yw hi
- Cyhoeddwyd

Doedd Nida Naseer heb ei gweld ers Rhagfyr 28 y llynedd
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai corff Nida Naseer gafodd ei ddarganfod mewn gwlyptiroedd yng Nghasnewydd ddydd Iau.
Doedd Nida Naseer, 19, heb ei gweld ers iddi fynd a sbwriel allan o'i thy ar Stryd Linton, Pill ar Ragfyr 28.
Cafodd y corff ei ddarganfod am tua 10.00yb ar Wlyptiroedd Gwent ger West Nash Road.
Mae'r farwolaeth yn dal i gael ei drin fel un anesbonadwy, ac mae disgwyl canlyniadau archwiliad post-mortem.
Mae teulu Nida Naseer yn parhau i gael cymorth gan yr swyddogion arbenigol yr heddlu.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Mark Warrender: "Mae hwn yn achos trasig iawn ac mae'n cydymdeimlad gyda'i theulu.
"Ers i Nida fynd ar goll, rydym wedi parhau'n obeithiol y byddai'n cael ei darganfod yn saff ac yn iach ac y gallai ailymuno â'i theulu.
"Roedd darganfyddiad ddoe yn ddatblygiad trist iawn i mi a'r tîm ymchwiliadol sydd wedi bod yn benderfynol o ddod o hyd i Nida ers y noson y diflanodd.
"Fe fyddwn yn parhau i gefnogi'r teulu yn ystod yr amser ofnadwy yma, ac, ar eu rhan, hoffwn ofyn i chi adael llonydd iddyn nhw nawr i alaru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2014
