Tân Plas Gwynfryn: cynnau yn fwriadol?
- Cyhoeddwyd

Roedd y plas yn arfer bod yn berchen i'r gwleidydd Ceidwadol Hugh John Ellis- Nanney
Mae'r gwasanaeth tân yn credu bod tân wnaeth ddechrau yn safle hen blasdy yn Llanystumdwy wedi cychwyn yn fwriadol.
Bydd y criwiau yn dychwelyd i'r safle fore Iau.
Mi gafodd nhw ei galw i'r safle nos Fercher. Mi oedd mwg mawr i'w weld yn dod o grombil Plas Gwynfryn, ac mi ddywedodd y gwasanaethau brys fod y tân wedi cael tipyn o afael.
Y bwriad ydy cael cip olwg ar yr adeilad a gorffen y gwaith o glirio'r lle.
Fe gafodd y plas, oedd ar un cyfnod yn gartref i'r Aelod Seneddol Hugh Ellis-Nanney ei ddifrodi gan dân yn yr wythdegau hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2014
