Baton y Frenhines yn cyrraedd Gwynedd a Môn
- Cyhoeddwyd

Cyrhaeddodd y baton gopa'r Wyddfa fore Iau
Cyrhaeddod Baton y Frenhines Gwynedd a Môn ar chweched diwrnod ei daith yng Nghymru.
Fore Iau cludodd Clwb Rhedwyr Eryri y baton i gopa'r Wyddfa.
Yno i dderbyn y baton roedd Syr David Brailsford, cyn bennaeth tîm beicwyr Prydain yng Ngemau Olympaidd Llundain a dyn gafodd ei fagu yn Llanberis.
Yno hefyd roedd Aled Sion Davies, un o bencampwyr Gemau Paralympaidd Llundain.
Y gyflwynwraig Alex Jones fu'n cludo'r baton mewn cwch ar y Fenai cyn i'r baton ymweld â Chanolfan Chwaraeon Dŵr Plas Menai ar y ffordd i Gaernarfon.

Doedd y tywydd ddim ar ei orau wrth i Aled Sion Davies gario'r baton i gopa'r Wyddfa

Cafodd y baton ei gludo mewn cwch ar y Fenai

Mae Ieuan Owen a Gareth Evans wedi cystadlu i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad

Cafodd y baton ei gludo i Ganolfan Chwaraeon Dŵr Plas Menai

Y baton yn cyrraedd Canolfan Ddringo Beacon yng Nghaernarfon
Cyn hynny roedd ym Miwmares lle bu sylw i gamp codi pwysau. Yn cludo'r baton yno roedd nifer o gystadleuwyr hen a newydd, gan gynnwys Ieuan Owen, Ray Williams a Gareth Evans.
"Mae'n rhoi pleser mawr i groesawu'r baton ac ymwelwyr o Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad a Phwyllgor Trefnu Glasgow 2014 i'r dref frenhinol," meddai Maer Caernarfon, Roy Owen.
Y Cynghorydd Owen gludodd y baton dros linell orffen ras bum cilomedr rhwng Plas Menai a Galeri yng Nghaernrfon nos Iau.
Yfory bydd diwrnod olaf y baton yng Nghymru a bydd yn ymweld ag Y Rhyl, Moel Famau, Rhuthun a Llandegla.
Daeth y baton i Gymru fore Sadwrn, gan lanio ym Maes Awyr Caerdydd cyn teithio drwy Abertyleri, Glyn Ebwy, Tredegar a Merthyr Tudful.
Erbyn diwedd yr wythnos bydd y baton wedi teithio 731 o filltiroedd yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2014

- Cyhoeddwyd27 Mai 2014

- Cyhoeddwyd26 Mai 2014

- Cyhoeddwyd25 Mai 2014

- Cyhoeddwyd24 Mai 2014

- Cyhoeddwyd23 Mai 2014

- Cyhoeddwyd23 Mai 2014
